Darllenwch y darn agoriadol yma o araith.

 

Annwyl gyfeillion,

Roedd eitem ddiddorol ar y newyddion yr wsnos dwytha am dimau pêl-droed rhyngwladol Norwy. Mae’n debyg bod tîm y merched yn mynd i dderbyn yr un cyflog â thîm y dynion o 2018 ymlaen - a diolch am hynny yntê! Mae hyn yn digwydd achos bod y dynion wedi cytuno i dderbyn llai o gyflog, fel bod yr arian sy ar gael yn cael ei rannu’n decach rhwng y ddau dîm. Chwarae teg iddyn nhw am wneud hynny, ond mae’n anhygoel meddwl bod y merched wedi bod yn derbyn llai o gyflog na’r dynion am chwarae’r un gêm ar yr un lefel on’d ydy hi! Ydy hyn yn digwydd mewn gwledydd eraill, dudwch?

Mi wnaeth yr eitem yma i mi feddwl mwy am gyflogau pêl-droedwyr a bod yn onest. Ro’n i’n gallu cofio am y ffi anfoesol dalodd Paris Saint Germain am Neymar ym mis Awst y llynedd (222 miliwn ewro!!!!) ac mi wnaeth hyn i mi feddwl faint mae pêl-droedwyr yn cael eu talu bob wsnos. Edrychwch ar y wefan yma, er enghraifft.

Bobl bach! Os ydy Neymar yn ennill £500,000 a Carlos Tevez yn ennill £650,000 mewn wsnos, faint ar y ddaear maen nhw’n ennill mewn blwyddyn, dudwch? Mi gewch chi wneud y sỳms!

Yna, mi ddechreues i feddwl, sut mae cyflog pêl-droedwyr yn cymharu efo cyflogau gweithwyr eraill. Mi ges i fy syfrdanu! Edrychwch ar y graff yma o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae’r ffigurau yma’n sôn am y flwyddyn Ebrill 2015-Mawrth 2016. Dydy’r ystadegau ar gyfer 2016-2017 ddim ar gael eto. Edrychwch yn ofalus – a chofiwch faint mae’r pêl-droedwyr yna’n ennill!

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
anhygoel amhosib ei gredu incredible
anfoesol rhywbeth sydd ddim yn foesol - yn hollol anghywir immoral