Darllenwch y testun hwn sy’n sôn am waith “gwahanol”. Mae teitl y swydd ar goll, ond beth yw’r swydd yn eich barn chi?
...........................................................................................................
Mae gen i’r swydd orau erioed. Dw i’n ennill £22,000 y flwyddyn am wneud rhywbeth dw i’n ei fwynhau’n fawr.
Beth dw i’n ei wneud
Dw i’n sefyll wrth felt symudol hir lle mae miloedd o greision ffres yn symud. Mae’r arogl yn anhygoel! Dw i’n edrych yn ofalus ar y creision sy’n symud o ’mlaen i a dw i’n cael gwared ar unrhyw rai sydd wedi eu llosgi neu sy’n sownd yn ei gilydd mewn talpiau mawr.
Hefyd, dw i’n cymryd rhan mewn cyfarfodydd staff i drafod creision.
Beth dw i’n ei hoffi am y gwaith
Mae’r gwaith yn wych! Dw i wrth fy modd yn bwyta creision ac mae’r cyflog yn eitha da. Hefyd, mae’r ffatri lle dw i’n gweithio yn hyfryd – mae’n lân (wrth gwrs!), yn gynnes ac mae gennyn ni ystafell staff fawr. Mae gen i lawer o ffrindiau yma ac rydyn ni’n cael llawer o hwyl.
Beth sy ddim mor dda am y gwaith
Mae’n bosib rhoi llawer o bwysau ymlaen os ydych chi’n bwyta’r creision! Hefyd, erbyn hyn, dw i ddim yn gallu agor pecyn o greision yn fy amser hamdden a’u mwynhau nhw fel roeddwn i’n arfer ei wneud oherwydd y peth cyntaf dw i’n ei wneud nawr ar ôl agor pecyn yw edrych i mewn a gwirio bod pob un yn edrych yn iawn.
Pa fath o berson sy’n gallu gwneud y gwaith yma
Person amyneddgar, sy’n fodlon sefyll am amser hir yn gwylio creision. Mae angen llygad da (er mwyn gallu gweld creision anaddas). Rhaid gallu dod ymlaen yn dda gyda phobl eraill hefyd.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
belt symudol | belt hir sy'n symud | conveyor belt |
cael gwared ar | symud oddi yno, taflu efallai | (to) get rid of |
talpiau | lluosog talp; lympiau | lumps |
gwirio | gwneud yn siŵr bod rhywbeth yn iawn | (to) check |
amyneddgar | ansoddair sy'n gysylltiedig ag amynedd; bod â llawer o amynedd | patient |
anaddas | rhywbeth sydd ddim yn briodol | unsuitable |