Darllenwch y testun hwn sy’n sôn am waith “gwahanol”. Mae teitl y swydd ar goll, ond beth yw’r swydd yn eich barn chi?
…………………………………………………………………
(£20 yr awr)
Os ydych chi’n berson amyneddgar ac os oes gennych chi draed da a chefn cryf, dyma’r swydd i chi – yn enwedig os ydych chi’n hapus i aros … aros … ac aros am rywbeth. Gorau oll os ydych chi’n berson cyfeillgar, cymdeithasol, oherwydd gall siarad â’r person sy’n sefyll wrth eich ochr chi helpu i leihau’r diflastod (weithiau!).
Y gwaith
ac
Y dyddiau hyn, gyda nifer cynyddol o gwmnïau’n cynnal digwyddiadau anhygoel i lansio offer technolegol newydd fel ffonau symudol smart neu gemau cyfrifiadur, neu siopau llyfrau’n cynnal digwyddiadau cyffrous i lansio llyfrau, neu hyd yn oed siopau’n cynnig sêls anhygoel (yn enwedig ar ddechrau’r flwyddyn), mae’r swydd hon yn dod yn fwyfwy poblogaidd gan fod angen y gwasanaeth yma ar bobl sy’n meddu ar ddigon o arian ond sydd heb lawer o amser. Mae’n bwysig hefyd adeg gwerthu tocynnau prin i gig neu adeg pencampwriaeth arbennig fel Wimbledon ym mis Gorffennaf, gan fod rhai pobl gyfoethog yn fodlon talu i chi sefyll ac aros yn eu lle nhw.
Manteision
Anfanteision
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
nifer cynyddol | mwy a mwy | increasing number |
lansio | cyhoeddi / rhyddhau am y tro cyntaf | (to) launch |
meddu ar | bod gan / gyda rhywbeth | (to) own |
prin | does dim llawer ohonyn nhw | rare, scarce |
gorbeinion | costau mewn busnes | overheads |