Annwyl bapur bro,
Oeddech chi’n gwybod bod pobl sy'n siopa mewn archfarchnadoedd yn Nenmarc yn gallu gwylio rhannau o Gymru wrth iddynt siopa?
Beth maen nhw'n gallu ei weld? Dramâu cyffrous? Cerddoriaeth fywiog? Tîm o Gymry cryf yn dangos sut i chwarae rygbi? Rhai o olygfeydd ysblennydd Cymru? Pobl yn syrffio ar draethau euraidd Sir Benfro efallai? Nage wir. Defaid ac ŵyn yn pori’n hapus ar gaeau Cymru – dyna beth mae’r fideo’n ei ddangos.
Mae dau lamb cam wedi eu gosod mewn caeau ger Corwen ac Aberystwyth i ddangos bod defaid ac ŵyn Cymru yn pori mewn caeau hyfryd, mewn amgylchedd bendigedig lle mae’r awyr yn lân a’r afonydd a’r nentydd yn glir. Pwrpas hyn yw dangos bod y cig yn dda a’i fod yn cael ei gynhyrchu drwy ddefnyddio dulliau naturiol, traddodiadol, diogel. Gall pobl Denmarc fod yn hollol hyderus eu bod yn bwyta cig da blasus, felly - cig arbennig iawn - os ydyn nhw’n prynu cig Cymru.
Credaf fod y cynllun yn un ardderchog gan ei fod yn dangos cynnyrch Cymru ar ei orau a hoffwn annog mwy o gwmnïau a chynhyrchwyr Cymru i feddwl am ffyrdd arloesol o hysbysebu ac o farchnata i wledydd tramor - yn enwedig gan fod Brexit ar fin digwydd!
Ond i gloi, gair o rybudd. Os byddwch chi’n cerdded ar draws y caeau yn ardal Aberystwyth neu Gorwen, byddwch yn ofalus ynglŷn â beth rydych chi’n ei wneud oherwydd mae’n bosib bod miloedd o bobl yn Nenmarc yn eich gwylio chi - yn fyw!!
Yn gywir,
E. Williams
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
ysblennydd | gwych iawn | splendid |
euraidd | ansoddair sy’n gysylltiedig â’r enw aur | golden |
dull | ffordd o wneud rhywbeth | method |
cynnyrch | rhywbeth sy'n cael ei gynhyrchu | produce |
arloesol | newydd, yn torri tir newydd | pioneering |
ar fin digwydd | yn mynd i ddigwydd yn fuan | about to happen |