Blwyddyn y Môr

Rhifyn 51 - Y Môr
Blwyddyn y Môr

O dan y môr a’i donnau

Tonnau, traethau, creigiau, cychod … Oeddech chi’n gwybod fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu mai 2018 yw Blwyddyn y Môr? Mae hyn yn dilyn:

  • 2016 – Blwyddyn Antur
  • 2017 – Blwyddyn y Chwedlau.

Diben Blwyddyn y Môr yw dathlu arfordir hyfryd Cymru a denu ymwelwyr o bob cwr o’r byd i gael mwynhau bywyd ar hyd ei glannau.

Cafwyd y llun hwn oddi ar wefan croeso.cymru

 

Bydd Blwyddyn y Môr yn 2018 yn rhoi cyfle i bobl feddwl eto am Gymru drwy hyrwyddo 

  • ei chynnyrch – o fwyd i grefftau
  • digwyddiadau a phrofiadau o bob math – o hwylio i nofio a physgota
  • golygfeydd hardd – o borthladdoedd i draethau
  • pobl Cymru a’u bywyd – eu teuluoedd a’u gwaith

... hynny yw, popeth sy'n gwneud Cymru'n lle unigryw i ymwelwyr. 

Beth yw neges fawr Blwyddyn y Môr?

Neges fawr Blwyddyn y Môr yw Ein Glannau Epig. Mae’r glannau’n cynnwys llynnoedd ac afonydd Cymru hefyd. Bydd y flwyddyn yn dangos pa mor anhygoel yw Cymru fel gwlad – o’r môr i ben y mynydd!

Os ydych chi eisiau darllen mwy, ewch i: croeso.cymru

Addaswyd o wefan croeso.cymru

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
unigryw rhywbeth arbennig iawn unique
hyrwyddo hysbysebu, rhoi hwn i rywbeth (to) promote
arfordir lle mae'r tir yn cwrdd â'r môr coast
cynnyrch rhywbeth sy'n cael ei greu produce
porthladdoedd lle mae llongau'n dod i'r lan i ddadlwytho ports
epig anhygoel, gwell nag unrhyw beth arall epic