CWIS
BYWYD MÔR ARFORDIR CYMRU – DEWIS DEG
Siarcod! Morfilod! Draenogod y Môr! Octopws! Dolffiniaid! Morloi?!
Mae cannoedd ar filoedd o wahanol greaduriaid yn byw yn y môr – o bob lliw a llun! Ond a ydych chi’n gwybod pa un o’r rhain sydd i’w gweld yn y môr o gwmpas Cymru?
Edrychwch ar y lluniau a dewis chwe chreadur y gallwch chi eu gweld oddi ar arfordir Cymru.
Nawr, edrychwch ar yr ATEBION i weld a ydych chi’n gywir!
SIARCCYWIR!
Mae mwy nag un math o siarc yn nofio o gwmpas Cymru weithiau, yn cynnwys y siarc mawr (basking shark) a’r siarc glas (blue shark). Maen nhw i’w gweld yn ardal Bae Ceredigion a Sir Benfro. Yn Asia, mae rhai pobl yn hoffi bwyta esgyll siarcod!
PYSGODYN CLOWN
ANGHYWIR!
Rydych chi’n fwy tebygol o weld hwn yn nofio ar sgrîn deledu neu yn y sinema yn y ffilm Finding Nemo. Pysgodyn sy’n byw mewn moroedd cynnes fel Cefnfor India a’r Môr Tawel ydy hwn. Mae môr arfordir Cymru’n rhy oer iddo!
MORLO
CYWIR!
Mae’n bosib gweld morloi o gwmpas arfordir Sir Benfro, yn enwedig yn ardal Ynys Dewi, ac ym Mhen Llŷn, er enghraifft.
DOLFFIN
CYWIR!
Mae’n bosib gweld dolffiniaid yn nofio mewn sawl man ar hyd arfordir Cymru, o Sir Fôn i Benrhyn Llŷn yng Ngwynedd, Cei Newydd yng Ngheredigion, Sgomer yn Sir Benfro ac arfordir De Cymru. Weithiau, mae’n bosib gweld cannoedd ohonyn nhw’n nofio ac yn bwydo gyda’i gilydd!
MORFIL
CYWIR!
Y morfil orca yw aelod mwyaf teulu’r dolffin. Mae’n gallu mesur hyd at 7 metr o hyd. Mae morfilod orca wedi cael eu gweld sawl gwaith yn chwilio am fwyd yn ardal Mwnt, Ceredigion.
MORGATH DDU
CYWIR!
Mae morgathod du wedi cael eu gweld yn nofio yn y môr ar hyd arfordir De Cymru, Sir Benfro a Cheredigion. Maen nhw’n gallu bod yn beryglus os ydyn nhw’n eich pigo chi.
CHWYDDBYSGODYN
ANGHYWIR!
Yn rhannau cynnes y Môr Tawel, Môr Iwerydd a Chefnfor India mae chwyddbysgod yn byw. Pan fyddan nhw’n cael eu bygwth, maen nhw’n llyncu dŵr ac yn chwyddo’u cyrff. Maen nhw’n gallu bod yn wenwynig iawn hefyd!
CRWBAN Y MÔR
ANGHYWIR!
Yn nŵr cynnes Cefnfor India mae crwbanod y môr yn byw.
MORFARCH
CYWIR!
Mae dau fath yn byw o gwmpas arfordir Cymru – y morfarch trwyn cwta a’r morfarch pigog.
GWRACHEN Y MÔR
CYWIR!
Pysgodyn lliwgar sydd i’w weld yn y môr yng ngogledd Bae Ceredigion. Gwrachen y môr yw un o’r ychydig bysgod sy’n gallu newid eu rhyw.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
esgyll | y gair lluosog am asgell, sef aden pysgodyn | fins |
penrhyn | darn o dir sydd â môr o’i amlych ar dair ochr | peninsula |
gwrachen y môr | enw math arbennig o bysgodyn lliwgar | cuckoo wrasse |
chwyddo | gwneud rhywbeth yn fwy | swell |