Tŷ Pella,

Porth Madryn,

Patagonia,

De America

16 Ebrill 1996

Annwyl Ffrind,

Ardderchog! Os ydych chi’n darllen y llythyr hwn, mae fy nghynllun wedi llwyddo! Fe wnes i roi’r llythyr hwn yn ddiogel mewn potel a’i thaflu i ganol tonnau Môr Iwerydd ar ddiwrnod fy mhen-blwydd yn bymtheg oed. Arbrawf oedd y cyfan – arbrawf i weld os oedd hi’n bosib i lythyr mewn potel groesi’r môr mawr a chyrraedd rhywun ym mhen draw’r byd – rhywun o Gymru yn ddelfrydol!

Gadewch i mi gyflwyno fy hun. Maria Gonzalez Jones yw fy enw i a dw i’n byw yn nhref Porth Madryn ar arfordir Patagonia, sy’n rhan o wlad yr Ariannin, gyda fy nheulu – Mam a Dad a dau frawd mawr – Ianto a Piedro. Dw i’n mynd i’r ysgol fan hyn yn y dref ac yn siarad Cymraeg a Sbaeneg gyda’r  teulu a’m ffrindiau.

Efallai ei bod hi’n anodd i chi gredu, ond roedd fy hen hen hen fam-gu yn dod o Gymru. Oedd wir! O Dde Cymru, mae’n debyg. Dyna sut mae ein teulu ni’n dal i siarad Cymraeg. Fe ddaeth hi ar draws y môr yma i Dde America yn 1865 gyda Michael D. Jones a’r ymfudwyr cyntaf ddaeth yma i Batagonia i chwilio am fywyd newydd. Wedi hwylio mewn cwch o Lerpwl oedden nhw. Roedd hi’n ugain oed pan ddaeth hi yma gyda’i hewythr a’i modryb. Penderfynodd ei rhieni hi beidio â mentro ar draws y tonnau. Roedd Patagonia’n rhy bell iddyn nhw, yn ôl y sôn.

Dw i’n mwynhau byw yma ym Mhorth Madryn. Mae’n dref brysur ar lan y môr a dw i wrth fy modd yn mynd am dro lawr i lan y môr gyda ffrindiau yn yr haf. Ryw ddiwrnod, dw i’n gobeithio mynd i’r coleg er mwyn dysgu bod yn athrawes, fel Mam.

Ro’n i eisiau anfon y llythyr hwn er mwyn gweld a fyddai tonnau’r môr yn gallu ei gario, gyda’n cofion cynnes ni fel teulu, ’nôl  yr holl ffordd i Gymru – neu unrhyw le yr ochr arall i’r Môr Iwerydd, a dweud y gwir.

Cofia anfon gair nôl ata i! Dw i wrth fy modd yn cwrdd â phobl newydd!

Cariad mawr oddi wrth dy ffrind newydd,

Maria x

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
arbrawf trio rhywbeth i brofi ffaith experiment
delfrydol gorau posib, perffaith ideal
Ariannin gwlad yn Ne America Argentina
ymfudwyr pobl sy'n symud i fyw o un wlad i'r llall emigrants