Mae’n hen bryd newid y dewis o chwaraeon yn yr ysgol. Dw i newydd fod yn chwarae hoci yn y glaw – yn y mwd, ar gae gwlyb, llithrig, corsiog, ych a fi! Mae croen fy nghoesau i’n goch gydag oerfel a dw i’n teimlo’n ddiflas tu hwnt. Dw i’n credu’n gryf mewn cadw’n heini, ond …
Dw i’n cytuno! Dw i’n casáu rhai chwaraeon yn yr ysgol. Mae’n hen bryd cael sesiynau mwy cyffrous lle mae’r disgyblion yn mwynhau. Does dim rhyfedd bod rhai pobl ifanc yn meddwl bod chwaraeon yn ddiflas a’u bod yn penderfynu peidio â gwneud ymarfer corff ar ôl gadael yr ysgol.
Beth am chwaraeon Ninja?
Beth yw chwaraeon Ninja?
Chwaraeon lle mae’n rhaid i chi wneud campau gwahanol.
Fel beth?
Mae llawer o gampau gwahanol, e.e. dringo i fyny tyrau uchel a neidio i lawr ar fagiau aer enfawr, dringo dwy wal gyfochrog yr un pryd, fel corryn – gyda’ch troed a’ch braich chwith ar y wal chwith a’ch troed a’ch braich dde ar y wal dde.
Waw!
Hefyd, camu o foncyff i foncyff …
Hawdd!
… ond mae’r boncyffion yn troi. Yn ogystal, beth am swingio o wrthrych i wrthych sy’n uchel o’r ddaear er mwyn cyrraedd diwedd y cwrs. Rhaid i chi fod yn gryf iawn i wneud hyn – rydych chi’n gallu teimlo cyhyrau rhan uchaf eich corff yn tynhau.
A beth am yr ymarfer gydag ysgol sydd wedi ei gosod tua 2 fetr uwch eich pen? Rhaid swingio o ris i ris er mwyn cyrraedd diwedd y cwrs. Rhaid cael breichiau cryf i wneud hyn!
Mae’r campau hyn yn swnio’n hwyl.
Mae’r campau hyn yn wych i’r corff. Maen nhw’n cryfhau’r cyhyrau, yn cyflymu cyfradd y pwls ac felly mae ocsigen yn cael ei bwmpio o gwmpas y corff yn fwy effeithiol. Maen nhw’n gallu arwain at deimlo’n fwy effro ac maen nhw’n help ar gyfer colli pwysau hefyd.
Maen nhw’n helpu i ddatblygu personoliaeth hefyd oherwydd pan fydd rhywun yn syrthio, mae’n codi ar unwaith ac yn trio eto. Mae’n arwain at ddyfalbarhad.
Ac mae’n bosib gwneud hyn heb orfod cystadlu yn erbyn rhywun arall. Gallwch chi osod nod i’ch hunan a cheisio gwneud eich gorau glas heb deimlo o dan fygythiad.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
corsiog | fel cors | swampy, boggy |
tyrau | lluosog tŵr; adeiladau uchel | towers |
cyfochrog | ochr yn ochr, gyda'r un pellter rhyngddyn nhw | parallel |
boncyff, boncyffion | rhan isaf coeden | log, logs; tree trunk, tree trunks |
dyfalbarhad | y gallu i ddal ati | perseverance |
teimlo o dan fygythiad | teimlo bod rhywun yn bygwth | (to) feel under threat |