Maen nhw’n grwn ac yn lliwgar, ond beth ydyn nhw?
Edrychwch ar y sioe sleidiau yma a cheisiwch ddyfalu beth ydy’r pethau crwn a lliwgar.
Chwiliwch am gliwiau:
Edrychwch yn ofalus ar sleidiau 1 - 4 eto a cheisiwch ateb y cwestiynau yma:
Sleid 1: | Pa fath o adeiladau sydd yn y ddelwedd? Ble fyddech chi’n gweld yr adeiladau hyn? |
Sleid 2: | Pa fath o ddillad sydd yn y ddelwedd? Ble fyddech chi’n debygol o weld y dillad hyn? |
Sleid 3: | Beth yw’r adar? Chwiliwch am bosibiliadau ar y we os nad ydych chi’n siŵr. Mae’r adar yma’n lwcus iawn yn y wlad hon. |
Sleid 4: | Beth yw’r blodau? Mae miliynau ohonyn nhw i’w gweld ar goed yn y wlad hon yn y gwanwyn. |
Nawr, edrychwch ar y pethau crwn eto – beth allen nhw fod?
Beth sydd o gwmpas y pethau crwn?
Ble maen nhw wedi eu gosod?
Ewch i’r adran Atebion i gael yr atebion.