Cafodd deuddeg o gamelod eu gwahardd o gystadleuaeth harddwch ym mis Ionawr eleni.
Roedden nhw i gyd yn cystadlu mewn gŵyl gamelod enfawr, a oedd i bara am fis cyfan, ar gyrion Riyadh, prifddinas Saudi Arabia. Roedd yr ŵyl flynyddol hon wedi denu tua 30,000 o gamelod, gyda phob un yn awyddus i ennill tua 3.7 miliwn o bunnau, sef y wobr ar gyfer pob categori unigol yn y gystadleuaeth. Yn wir, roedd cyfanswm y gwobrau dros 40 miliwn o bunnau, swm sylweddol iawn, a dyma oedd yn gyfrifol, efallai, am benderfyniad rhai pobl i dwyllo!
Wrth geisio dewis y camel harddaf, mae’r beirniaid yn chwilio am wddf hir, gwefusau mawr a chrwmp da fel arfer. Yn ogystal, mae trwyn mawr a chlustiau bach yn bwysig. Gan fod y gwobrau mor fawr, mae’r perchnogion yn gwneud pob ymdrech i harddu eu hanifeiliaid. Yn wir, cyn y gystadleuaeth, mae llawer ohonyn nhw’n cribo blew’r camelod ac yn defnyddio hairspray i geisio’u cadw’n hardd. Mae rhai eraill yn tylino cyrff eu hanifeiliaid.
Ond yn y gystadleuaeth eleni (2018), daeth yn amlwg bod rhai camelod wedi cael eu trin yn fwy eithafol byth! Roedd milfeddyg wedi bod yn rhoi pigiadau tebyg i Botox i wefusau, trwyn a gên rhai o’r anifeiliaid er mwyn gwneud i’r pen, ac yn arbennig y gwefusau a’r trwyn, ymddangos yn fawr. Roedd y milfeddyg wedi bod yn torri clustiau rhai o’r anifeiliaid hefyd er mwyn gwneud iddyn nhw ymddangos yn dlws.
“Mae twyllo yn ofnadwy,” meddai un o’r miloedd o ddynion oedd wedi dod i’r ŵyl. “Rhaid i ni gosbi’r bobl sy’n twyllo yn llym. Rydyn ni’n cosbi pobl sy’n twyllo mewn chwaraeon, felly dylen ni gosbi twyllwyr mewn cystadlaethau harddwch hefyd!”
Yn ogystal â’r gystadleuaeth harddwch, mae llawer o weithgareddau diddorol eraill yn ystod yr ŵyl, fel rasys camelod, stondinau amrywiol, marchnad arbennig, dawnsio, canu a mwy!
Os oes gennych chi unrhyw sylwadau, ysgrifennwch aton ni, mae’r cyfeiriad ar dudalen olaf y rhifyn hwn.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
gwahardd | rhwystro neu atal rhywun rhag gwneud rhywbeth | (to) disqualify |
awyddus | brwd, bod eisiau gwneud rhywbeth | eager |
sylweddol | mawr | substantial, significant |
crwmp | darn wedi ei chwyddo ar gefn camel | hump |
tylino | rhwbio rhan o'r corff | (to) massage |