Calon wrth galon

Rhifyn 53 - Y Galon
Calon wrth galon
22 Chwefror 2018

Daeth cannoedd o ddisgyblion ysgolion uwchradd yn Fflorida at ei gilydd heddiw i ffurfio siâp calon anferth ar gae pêl-droed fel rhan o brotest i alw am newid deddfau gynau'r Unol Daleithiau. Digwyddodd y brotest ar ôl i 17 aelod o staff a disgyblion gael eu saethu’n farw a nifer eraill eu hanafu yn Ysgol Uwchradd Marjory Stoneman Douglas yn Parkland, Fflorida, ar 14 Chwefror 2018. Mae Nikolas Jacob Cruz, 19 oed, cyn-ddisgybl yn yr ysgol, wedi ei arestio yn dilyn y trychineb.

 

Ar hyd a lled y wlad, cerddodd disgyblion allan o’u dosbarthiadau i fynnu rheolau mwy caeth ynglŷn â gynau. Maen nhw eisiau cyfyngu mwy ar bwy sy’n gallu prynu gynau, gan alw hefyd am well gwasanaethau ar gyfer iechyd meddwl.

Cafodd eu galwadau eu cefnogi gan y cyn-arlywydd, Barack Obama, drwy neges ar Twitter. Dywedodd yr Arlywydd Trump hefyd mewn trydariad ‘nad oes unrhyw beth yn bwysicach na diogelwch ein plant.’

Ar hyn o bryd, mae hawl gan berson 21 oed i brynu gwn llaw, ond gall person 18 oed brynu reiffl, fel yr AR-15 a ddefnyddiwyd gan y cyn-ddisgybl yn Fflorida.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
trychineb digwyddiad ofnadwy disaster
caeth llym, tynn strict, tight
cyfyngu rhwystro, stopio (to) restrict
trydariad neges ar Twitter tweet
reiffl dryll hir, sy'n cael ei saethu o'r ysgwydd rifle