Dychmyga’r olygfa (neu beidio, os yw eich stumog chi braidd yn wan!):
Ble? Canolbarth America
Pryd? 1200-400 CC
Actorion: Llwyth yr Azteciaid; offeiriaid a charcharor
Golygfa: Mae cannoedd o bobl wedi ymgasglu o gwmpas y deml ar ganol sgwâr y pentref. O’u blaenau, mae pum offeiriad - pedwar ohonynt yn sefyll yn stond a’r pumed yn dal arf callestr finiog yn ei law. O’u blaenau, mae carcharor wedi’i glymu a’i osod i orwedd ar ddarn o graig fawr ar lawr - y chamcool. Un o elynion yr Azteciaid yw’r carcharor, a ddaliwyd gan un o ryfelwyr y llwyth yn trio sleifio’i ffordd i mewn i’r pentref i achosi distryw. Er bod y carcharor yn dal yn fyw, mae’n sylweddoli’n iawn fod yn amser iddo wynebu ei dynged.
Mae’r dorf yn llawn cynnwrf, yn ysu am weld y sioe fawr yn dechrau, yn ysu am waed. Maen nhw’n gyfarwydd â’r drefn, a’r achlysur – yr aberthu. Cynnig aberth i’r duwiau, a’r aberth hwnnw’n aberth byw.
Mae’r offeiriad yn codi’r gallestr ac yn ei hyrddio i fynwes y carcharor. Daw gwaedd oddi wrth y dorf a sgrech boenus o do’r deml. Hollta’r offeiriad y cnawd a cherfio calon y carcharor o’i gorff, yn aberth i’r duwiau. Cwyd hi’n uchel i’r awyr, fel llygedyn o’r haul ac yn symbol o holl fodolaeth yr unigolyn. Mae’n ei rhoi mewn powlen, cyn i gorff marw’r carcharor gael ei daflu i waelod grisiau’r deml.
Islaw, mae’r dorf yn canu, chwibanu ac yn dawnsio i ddathlu'r aberth i’r duwiau. Mae rhai aelodau o’r dorf hefyd yn niweidio’u hunain ag arfau miniog, fel symbol o’u haberth hwythau. Caiff pen y carcharor ei dorri a’i osod ar rac penglogau gerllaw, a chaiff gweddill ei gorff ei daflu’n fwyd i’r anifeiliaid.
Diwrnod cofiadwy arall yn hanes yr Azteciaid!
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
ymgasglu | dod at ei gilydd | (to) gather together |
callestr | craig lwyd galed oedd yn cael ei defnyddio ar gyfer arfau neu offer | flint |
chamcool | y darn mawr o graig oedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer aberthu | chamcool |
sleifio | symud neu fynd mewn ffordd ddistaw bach | (to) sneak |
distryw | chwalfa, dinistr, difrod | destruction |
aberthu | cyflwyno rhywbeth yn rhodd i'r duwiau | (to) sacrifice |
hyrddio | taflu neu wthio'n galed iawn | (to) throw |
mynwes | brest, y rhan flaen o'r corff rhwng yr ysgwyddau | chest |