Oeddech chi’n gwybod mai Clefyd y Galon sy’n achosi’r nifer fwyaf o farwolaethau ym Mhrydain bob blwyddyn?
Mae 73,000 o bobl yn marw o Glefyd y Galon (CHD) bob blwyddyn.
Mae mwy o bobl yn marw o Glefyd y Galon (CHD) mewn ardaloedd tlawd.
Mae 16% o ddynion a 10% o ferched yn marw o Glefyd y Galon cyn eu bod yn 65 oed.
Ar draws y byd, mae 17.3 miliwn o bobl yn marw o Glefyd y Galon bob blwyddyn – 30% o’r boblogaeth.
Bob 7 munud, bydd rhywun ym Mhrydain yn cael trawiad ar y galon.
Ar hyn o bryd, mae 1 miliwn o ddynion a 500,000 o ferched ym Mhrydain yn byw gydag effaith trawiad ar y galon.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
Trawiad ar y galon | Poen ofnadwy yn y galon, neu'r galon yn stopio curo'n sydyn | heart attack |