PENAWDAU’R DYDD:
Cafodd astudiaeth ei gwneud am 5 mlynedd gyda chleifion oedd yn dioddef o glefyd y galon. Gofynnwyd i’r cleifion eistedd yn gyfforddus am 15 munud bob dydd, gan ymlacio, cau eu llygaid ac ailadrodd sŵn o’r enw ‘mantra’ yn y pen.
Canlyniad: Lleihau’r perygl o drawiad ar y galon a strôc o 48%.
Pam? Lleihau’r pwysau gwaed; lleihau effaith straen.
Mae gwyddonwyr wedi gallu profi fod curiad y galon yn gallu arafu o 24 i 14 curiad y funud pan fyddwch chi'n cysgu. Mae hyn yn dibynnu ar ba mor drwm rydych chi'n cysgu a pha mor gyflym mae eich calon chi’n curo yn ystod y dydd fel arfer.
Caynlyniad: Mae calon person ifanc yn arafu o 24 curiad y funud a chalon person oedrannus yn arafu o 14 curiad y funud ar gyfartaledd.
Pam? Mae signalau oddi wrth y nerfau sy’n dweud wrth y galon am guro’n gyflym yn arafu.
Mae astudiaethau dros 25 mlynedd wedi dangos mai cysgu rhwng 6 a 9 awr y dydd sy’n gwneud y mwyaf o les i’r galon.
Canlyniad: Mae pobl sy’n cysgu llai na 6 awr y dydd 48% yn fwy tebygol o gael trawiad ar y galon. Mae pobl sy’n cysgu mwy na 9 awr y dydd 38% yn fwy tebygol o gael trawiad ar y galon.
Pam? Dim cytundeb gan wyddonwyr eto, ond awgrym efallai nad yw’r pwysau gwaed yn disgyn digon neu’n disgyn gormod.
Mae astudiaethau diweddar wedi dangos bod cysylltiad rhwng bod yn effro a bywiog a chyflymder curiad y galon. Pan fydd angen i chi fod yn fywiog ac yn sionc, bydd curiad eich calon chi’n cyflymu.
Canlyniad: Gall pobl sydd â churiad calon sy’n cyflymu ymateb yn fwy effro i bethau.
Pam? Oherwydd y negeseuon sy’n cael eu hanfon o’r ymennydd i’r galon.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
myfyrio | meddwl, pwyso a mesur yn dawel yn y meddwl | (to) meditate |
mantra | gair neu sŵn sy'n cael ei ailadrodd i helpu myfyrio | mantra |
straen | pwysau ar y meddwl, gofid | stress |
diffyg | dim digon o rywbeth | lack of |