Torri calon

Rhifyn 53 - Y Galon
Torri calon

Trosiad yw torri calon i ddisgrifio’r pwysau emosiynol ofnadwy y mae’r corff yn ei deimlo o golli rhywbeth neu rywun y maen nhw'n caru. Mae pobl ar draws y byd wedi bod yn sôn am dorri calon ers canrifoedd lawer. Mae pobl sy’n torri calon yn gallu teimlo:

  • wedi blino
  • mewn poen corfforol
  • yn wan.

Symptomau eraill:

  • methu cysgu
  • methu bwyta
  • bwyta gormod
  • cur pen/pen tost
  • chwydu. 

Mewn chwedlau, mae sôn am gymeriadau’n marw o dor calon. Dyna i chi stori Nant Gwrtheyrn, lle mae Rhys, y priodfab, yn torri ei galon yn syth wrth droed y goeden dderwen lle daeth o hyd i sgerbwd ei gariad, Meinir. Yn y Mabinogi wedyn, mae Branwen, chwaer Bendigeidfran, yn torri ei chalon yn Iwerddon wrth gael ei cham-drin gan ei gŵr a’i deulu.

Fel arfer, mae tor calon yn cael ei ddangos ar ffurf calon a saeth Cupid yn torri drwyddi. Ffigwr o fytholeg glasurol yw Cupid, duw cariad a chwant, oedd fel arfer yn cael ei ddisgrifio fel bod mewn cariad gyda Fenws, sef duwies cariad. Roedd yn cario bwa a saeth. Byddai’n defnyddio’r saethau i danio cariad yng nghalonnau pobl.

https://en.wikipedia.org/wiki/File:Eros_bow_Musei_Capitolini_MC410.jpg

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
trosiad cymharu rhywbeth heb ddefnyddio'r gair 'fel' metaphor
emosiynol yn gysylltiedig â'r emosiynau a'r teimladau emotional
mytholeg straeon neu chwedlau traddodiadol mythology