Cassini a Virgin Galactic

Ers canrifoedd, mae pobl wedi breuddwydio am adael y Ddaear a theithio drwy’r gofod i fydoedd eraill.

Yn ystod y 60 mlynedd ddiwethaf, mae llawer o rocedi a lloerennau wedi eu hanfon i fyny i’r gofod i gyfeiriad pob un o blanedau’r Bydysawd, asteroidau a chomedau. Mae rhai wedi llwyddo i lanio ar ambell blaned tra bod cerbydau arbennig wedi gyrru ar y lleuad ac ar Blaned Mawrth. Mae archwilio’r haul hefyd wedi bod yn nod i sawl taith i’r gofod, ac mae nifer fawr o loerennau a chamerâu arbennig, yn cynnwys Telesgôp Gofod Hubble, yn dal i anfon lluniau anhygoel o’r gofod yn ôl i’r Ddaear. Hyd yn hyn, mae tua 500 o bobl wedi teithio i’r gofod a 12 ohonyn nhw wedi cerdded ar y lleuad!

Mwy o deithio i'r Gofod

Cassini-Huygens

Bwriad y cynllun hwn oedd anfon llong ofod i astudio’r blaned Sadwrn a’r cylchoedd a’r lloerennau o’i hamgylch. Cafodd y cynllun ei enwi ar ôl y ddau astronomegydd enwog Giovanni Cassinni a Christiaan Huygens.

Cafodd llong ofod Cassini-Huygens ei gyrru i fyny i’r gofod o Cape Canaveral, Fflorida, UDA, ar y 15fed o Hydref, 1997. Er mai pedair blynedd oedd hyd y daith i’r gofod i fod, bu’n teithio o gwmpas y gofod am 20 mlynedd. Wrth deithio i gyfeiriad y blaned Sadwrn, pasiodd y llong ofod heibio i Fenws, y Ddaear, asteroid 2685 Masursky ac Iau.

Ar Ddydd Nadolig, 2004, cafodd parasiwt ei ddefnyddio i ollwng offer arbennig i archwilio wyneb y blaned Sadwrn. Glaniodd ar Titan, lleuad fwyaf Sadwrn, ar y 14eg o Ionawr, 2005. Dyma’r tro cyntaf erioed i unrhyw beth lwyddo i lanio ar un o blanedau allanol Cysawd yr Haul. Mae astronomegwyr wedi llwyddo i ddysgu llawer mwy am y gofod, a phlaned Sadwrn yn enwedig, oherwydd y wybodaeth a gasglwyd.

Cyffrous!

TESS

Diben TESS, un arall o gynlluniau NASA, yw darganfod miloedd o blanedau uwchsolar sy’n cylchdroi o gwmpas y sêr mwyaf llachar yn yr awyr. Mae’r astudiaeth yn digwydd dros gyfnod o ddwy flynedd o fis Mawrth 2018, gan fonitro 200,000 o sêr am arwyddion dros dro o oleuni sy’n digwydd wrth i blanedau symud. Mae disgwyl y bydd cynllun TESS yn dod o hyd i blanedau uwchsolar o faint y Ddaear a rhai mwy fyth wedi eu creu o nwy. Dyma’r tro cyntaf i’r fath astudiaeth ddigwydd; byddai cynnal y fath astudiaeth o’r Ddaear yn amhosib.

Perchennog cwmni Virgin yw Richard Branson a’i syniad e yw Virgin Galactic. Dywedodd mai ei fwriad yw:

‘creu diwydiant llongau gofod newydd sbon sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, a fydd yn agor y gofod i bawb – ac yn newid y byd, er gwell. O’r gofod, gallwn gael perspectif newydd ar bopeth.’

Llun: 5.3.10RichardBransonByDavidShankbone - David Shankbone © Wikimedia Commons o dan drwydded Creative Commons Attribution 3.0 Unported

 

Y VSS UNITY

Y VSS UNITY fydd llong ofod gyntaf Virgin Galactic. Bydd yn cynnig cyfle i unrhyw un – wel, unrhyw un sy’n gallu fforddio talu am y daith – i fynd i’r gofod. Yr hyn sy’n arbennig am y VSS UNITY yw ei bod mewn dwy ran – yr awyren sy’n codi’r llong ofod i’r gofod – sy’n gallu cael ei defnyddio drosodd a thro – a’r llong ofod ei hunan.

Llun: Virgin Galactic SpaceShipTwo "Unity" rollout 19Feb2016, FAITH hangar, Mojave, California - Ronrosano © Wikimedia Commons o dan drwydded GNU Free Documentation License, Version 1.2

 

Yn y pen draw, bwriad cynllun Virgin Galactic yw cludo pobl yn ddiogel, cyflym a hwylus o wahanol leoliadau ar y Ddaear i westai a labordai yn y gofod.

Am sbort!

Cadwch lygad ar agor am y newyddion diweddaraf, felly!

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
lloerennau pethau yn y gofod sy'n troi o gwmpas y planedau satellites
asteroidau cyrff bychain o graig sy'n troi o gwmpas yr haul asteroids
comedau cyrff o iâ sy'n troi o gwmpas yr haul ac sy'n rhyddhau nwyon wrth doddi yn ei wres comets
seryddwyr pobl sy'n astudio'r sêr, y planedau a'r gofod astronomers
uwchsolar y tu allan i Gysawd yr Haul extrasolar
heriau problemau neu dasgau sy'n gallu bod yn anodd challenges
lleoliadau mannau arbennig, mannau penodol locations