Heb Haul, Heb Ddim!

Rhifyn 55 - Bodolaeth Dan yr Haul
Heb Haul, Heb Ddim!

Heb Haul, Heb Ddim!

Pwysigrwydd yr haul a’r lleuad i’n bodolaeth

Does dim yn fwy pwysig i’n bodolaeth ni ar y Ddaear na’r haul. Meddyliwch am y peth: heb wres a golau’r haul, beth fyddai’r Ddaear?

Ie, dyna ni, pelen o graig dan haenen o ia! Fyddai neb na dim yn gallu byw ar y Ddaear wedyn! Heb yr haul, fyddai’r Ddaear ddim wedi gallu ffurfio o gwbl!

Ond, beth mae’r haul yn ei wneud felly?

  • cynhesu ein moroedd
  • achosi symudiadau yn yr atmosffêr
  • achosi patrymau tywydd
  • rhoi egni i blanhigion gwyrdd sy’n creu bwyd ac ocsigen i gynnal bywyd ar y Ddaear drwy broses ffotosynthesis.

 

Yr haul YW bywyd ar y Ddaear.

A beth am y lleuad?

Yn y nos, y lleuad, nid yr haul sydd i’w gweld yn yr awyr. Lloeren yw’r lleuad – math o asteroid – sy’n troi o gwmpas y Ddaear. Mae’r lleuad 384,403km i ffwrdd o’r Ddeaer ac mae’n troi o gwmpas y Ddaear unwaith bob 27.5 diwrnod.

Heb leuad, heb …

  • Fisoedd ar y calendr. Mae calendr fel arfer yn dilyn newidiadau’r lleuad.
  • Llanw a thrai cryf.
  • Diwrnodau 24 awr. Byddai ein diwrnodau’n fyrrach – tua 10 awr o hyd – oherwydd byddai’r Ddaear yn troi’n gynt.
  • Lle cyfleus i fentro i archwilio’r gofod.

 

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
Cysawd yr Haul wyth planed wedi'u trefnu yn nhrefn eu pellter o'r Haul Solar System
atmosffêr yr haenen o nwyon sy'n flanced o gwmpas y Ddaear neu blaned arall atmosphere
ffotosynthesis y broses sy'n cael ei ddefnyddio gan blanhigion i droi golau'r Haul yn egni cemegol sy'n cael ei storio photosynthesis
lloeren rhywbeth yn y gofod sy'n troi o gwmpas planed satellite
asteroid corff bychan o graig sy'n troi o gwmpas yr Haul asteroid