ACHOS I DDATHLU

Bydd miloedd o bobl yn heidio i Gôr y Cewri yn Swydd Wiltshire bob blwyddyn i ddathlu hirddydd haf.

Hirddydd haf yw’r diwrnod sy’n nodi diwrnod ‘canol haf’, neu ddiwrnod ‘hiraf’ y flwyddyn. Wrth gwrs, 24 awr yw hyd y diwrnod hwnnw, fel pob diwrnod arall o’r flwyddyn, ond dyma’r diwrnod pan fydd y nifer mwyaf o oriau o olau dydd rhwng toriad gwawr a machlud haul, gan fod yr haul yr agosaf at Begwn y Gogledd. Mae’r cyfan yn dibynnu ar oledd y Ddaear tuag at yr haul. Yn Hemisffêr y Gogledd, mae Hirddydd haf yn digwydd pan fydd Pegwn y Gogledd ar oledd o 23 26’ tua’r haul, sef rhwng yr 20fed a’r 22ain o Fehefin bob blwyddyn. Dyna pam mai Mehefin y 21ain yw dyddiad Hirddydd haf – diwrnod cyntaf yr haf, yn ôl seryddwyr. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd y dydd yn byrhau, gydag ychydig bach yn llai o olau dydd bob dydd, nes cyrraedd diwrnod byrraf y flwyddyn ym mis Rhagfyr.

Paganiaid a derwyddon sy’n dathlu Hirddydd haf fel arfer. Maen nhw wedi bod yn cynnal seremonïau i ddathlu bywyd newydd ar y diwrnod hwn dros y canrifoedd. Mae pobl yn casglu yng Nghôr y Cewri bob blwyddyn, gan wynebu’r gogledd-ddwyrain i wylio’r haul yn codi ar doriad gwawr.

Dathlu ar draws y byd

Ond mae pobl ym mhob cwr o’r byd yn dathlu Hirddydd haf. Fel arfer, dathlu crefydd a ffrwythlondeb fyddan nhw. Yng Ngwlad Pwyl, mae dathliadau paganaidd Waianki yn debyg iawn i’r hyn sy’n digwydd ym Mhrydain. Yn Estonia wedyn, mae’r diwrnod yn ddathliad o batrymau amaethyddol newydd, ac yn Rwsia ac Wcráin, mae’n arfer i bobl neidio dros danau i ddangos eu dewrder a’u ffydd grefyddol.

Oeddech chi'n gwybod?
  • Er mai Hirddydd haf yw’r diwrnod sydd â’r mwyaf o olau dydd yn ystod y flwyddyn, nid dyma’r diwrnod poethaf, fel arfer. Mae mis Gorffennaf ac Awst yn boethach ar y cyfan.
  • Ar yr un adeg â’n Hirddydd haf ni, mae rhannau o Norwy, y Ffindir a rhannau eraill o gylch yr Arctig yn cael ‘haul canol nos’.
  • Yng Nghylch yr Arctig, dyw’r haul ddim yn machlud o gwbl, a hynny, unwaith eto, oherwydd gogwydd echelin y Ddaear.
  • Er mai Mehefin yr 21ain yw dyddiad Hirddydd haf ym Mhrydain, yn Awstralia a hemisffêr y De, dyma ddyddiad canol y gaeaf.
  • Yn ystod blwyddyn naid, mae Hirddydd haf yn digwydd ar Fehefin yr 20fed.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
echelin llinell ddychmygol y mae pethau'n troi o'i hamgylch axis
Côr y Cewri man enwog yn ne-orllewin Lloegr lle mae casgliad o gerrig mawr Stonehenge
paganiaid pobl sy'n credu mewn crefydd ar wahân i brif grefyddau'r byd pagans
derwyddon offeiriaid neu arweinyddion o'r traddodiaid Celtaidd druids
gogwydd pwyso i un ochr tilt
blwyddyn naid blwyddyn sy'n cynnwys 366 o ddyddiau yn lle 365 leap year