Mae llawer o gyffro ac edrych ymlaen pan fydd dinas yn clywed ei bod hi’n cael cynnal y Gemau Olympaidd – yn yr haf neu’r gaeaf.

Fideo: https://www.youtube.com/watch?v=5Dt4jjS_dyA

Mae llawer yn sôn fod y Gemau Olympaidd yn cael effaith ar ddinasoedd am flynyddoedd lawer wedyn gan eu bod yn cynnig:

  • cyfle i fwynhau chwaraeon mewn cyfleusterau gwych
  • cyfle i drio chwaraeon newydd
  • cyfle i bobl gadw’n heini a gwella’u hiechyd.

Ond, ydy hynny'n wir, tybed?

Montréal, Canada - Haf 1976

Cost y Gemau: £5.35 biliwn

Cost y Stadiwm: £1.23 biliwn

Maint: 73,000 sedd

Newyddion da: Stadiwm modern dros ben, yn edrych fel llong ofod, gyda thŵr uchaf y byd – ar y pryd – yn cael ei adeiladu

Newyddion drwg: Costiodd y stadiwm lawer mwy na’r disgwyl ac aeth 30 mlynedd heibio cyn i ddinas Montréal orffen talu amdano. Ers y Gemau Olympaidd, mae llawer o broblemau wedi bod, yn cynnwys y tŵr yn mynd ar dân, darnau o’r to’n disgyn a’r to’n hollti dan bwysau eira.

Newyddion heddiw: Does dim llawer yn digwydd yn y stadiwm heddiw, ond mae rhai o adeiladau eraill Gemau Olympaidd Montréal, fel y felodrom, yn dal i gael eu defnyddio.

Beijing, China - Haf 2008

Cost y Gemau: £31.7 biliwn

Cost y Stadiwm: £378 miliwn

Maint: 91,000 o seddau

Newyddion da: llawer o adeiladau newydd ar gyfer chwaraeon ar draws y ddinas

Newyddion drwg: llawer o bobl y wlad yn cael eu gorfodi i weithio ar yr adeiladau’n rhad ac am ddim

Newyddion heddiw: mae Stadiwm y Nyth Aderyn wedi cael ei adael yn wag a does neb yn ei ddefnyddio erbyn hyn. Ond, mae’n bosib trefnu mynd am daith o gwmpas y stadiwm i weld y lle.

PyeongChang, De Korea - Gaeaf 2018

Cost y Gemau: £9.8 biliwn

Cost y Stadiwm: £82.3 miliwn

Maint: 35,000 sedd

Newyddion da: Codi stadiwm newydd sbon siâp pentagon, heb do na gwres, er mwyn arbed ar y gost. Y stadiwm yn cael ei adeiladu mewn blwyddyn a deg mis.

Newyddion drwg: Cafodd y stadiwm ei adeiladu ar gyfer seremoni agoriadol Gemau Olympaidd y Gaeaf yn 2018 er bod pawb yn gwybod y byddai’n cael ei ddymchwel ar ôl i’r Gemau orffen.

Newyddion heddiw: Ar ôl cynnal 4 digwyddiad yn y stadiwm, cafodd ei ddymchwel er mwyn arbed costau i’r ddinas.

Llun: Pyeongchang Olympic Stadium at day for 2018 Winter Paralympics opening ceremony - 1 - 김영준 (Kim Youngjun; @eun_gong) © Wikimedia Commons o dan drwydded Creative Commons Attribution 2.0 Korea

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
dymchwel bwrw i lawr (to) demolish