Chris Chris

Oes unrhyw un yn gallu fy helpu i os gwelwch yn dda? Dw i’n cael parti pen-blwydd wythnos nesaf a’r thema ydy “Siocled”. Oes gan unrhyw un syniadau am fwyd siocledaidd?

Matt Matt

Brechdanau siocled …

Chris Chris

Neis!

Alys Alys

Crempogau siocled …

Chris Chris

Neis!

Iolo Iolo

Sbageti siocled

Chris Chris

Na, dw i ddim yn meddwl - bydd o’n gwneud gormod o lanast. Dwyt ti ddim yn nabod fy ffrindiau i!!!

Imran Imran

Creision siocled … neu, yn well byth, creision tsili a siocled …

Chris Chris

Neis!

Manon Manon

Cig moch wedi ei ddipio mewn siocled …

Chris Chris

Www, neis!

Jayesh Jayesh

Pizza siocled ...

Chris Chris

Beth?!?!

Jayesh Jayesh

Pizza siocled – blasus iawn. Gratia siocled yn lle caws ar y pizza ac yna galli di roi fferins bach ar y top. Blasus iawn.

Lyn Lyn

Blasus, efallai, ond afiach. Byddai pizza melon dŵr efo ffrwythau ac ychydig o siocled yn iachach.

Chris Chris

Sut mae gwneud un o’r rheina?

Lyn Lyn

Wel, torra felon dŵr ar ei draws, rho ffrwythau a thipyn bach o iogwrt ar ei ben ac yna ychydig – a dw i’n pwysleisio ychydig – o saws siocled dros y ffrwythau. Dyma lun i ti.

Chris Chris

Mae hwnna’n swnio’n flasus …

Lyn Lyn

… ac yn iach … a gan ein bod ni’n sôn am fwyd iach, beth am frocoli wedi ei orchuddio â siocled?

Chris Chris

Beth?!?!?

Lyn Lyn

Mae’n ffordd dda o gael un o dy bum ffrwyth neu lysieuyn bob dydd.

Chris Chris

Na, dim diolch.

Matt Matt

Rhaid cael cacen siocled, wrth gwrs.

Chris Chris

Mmm, blasus – cacen siocled efo eisin siocled … a hufen siocled yn y canol … a siapiau siocled ar y top i’w haddurno.

Lyn Lyn

Wel, beth am am gacen ychydig yn iachach ...

Chris Chris

Fel beth?

Lyn Lyn

Cacen siocled a betys – mae’n iach …

Chris Chris

Mmm?!?

Lyn Lyn

… a beth am gacen siocled a banana – mae honna’n iach hefyd.

Gwyn Gwyn

… a chacen moron a siocled.

Chris Chris

Ie, wel … mmm … Dw i ddim yn siwr am ddefnyddio llysiau mewn cacen, rhaid i mi ddweud. Beth am …  brownies siocled? Blasus iawn yn enwedig os ydych chi’n rhoi sglodion siocled ynddyn nhw hefyd.

Lyn Lyn

Cytuno – ond beth am brownies zucchini a siocled.

Chris Chris

Beth ar y ddaear yw “zucchini”?

Lyn Lyn

Courgette.

Chris Chris

Pam na faset ti'n dweud "courgette" te?

Lyn Lyn

Dw i’n hoffi’r enw “zucchini”.  Ta waeth, rwyt ti’n defnyddio zucchini – courgette neu gorbwmpen – yn y rysáit yn lle olew neu fenyn. Felly, mae’n llawer iachach. 

Chris Chris

Dw i ddim yn siwr …

Jayesh Jayesh

Fydda i ddim yn dod i’r parti os wyt ti’n mynd i wneud cacen courgette.

Lyn Lyn

Ond mae’n flasus tu hwnt. A dyma syniad blasus – hawdd ac iach. Banana split efo iogwrt yn lle hufen iâ, ffrwythau ffres ac, os oes rhaid, ychydig – a dw i’n pwysleisio ychydig eto – o siocled.

Gwyn Gwyn

Gallet ti wneud bananas siocled hefyd. Torra’r bananas yn ddarnau tua 2 cm. Gorchuddia nhw â siocled. Rho ffon coctel ym mhob un a rhewa nhw.  Grêt – a galli di eu paratoi nhw o flaen llaw.

Chris Chris

Gwych! Diolch am syniadau diddorol. Nawr, yr adloniant a’r addurniadau …

Lyn Lyn

O, rhaid i fi fynd ...

Matt Matt

A fi – mae’r gwaith cartref yn galw!?!?!

Gwyn Gwyn

Rhaid i fi fynd i olchi ‘ngwallt. Hwyl fawr.

Chris Chris

Ond ...

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
llanast annibendod mess