iocled yw un o’r bwydydd mwyaf diddorol ar y blaned!

I rai pobl, rhywbeth i’w fwyta yn unig ydyw,

nd mae siocled yn llawer mwy defnyddiol na hynny! Ydych chi wedi clywed am y

ar arbennig sy’n cael ei bweru gan siocled, er enghraifft? Hefyd mae rhai pobl yn dipio cig moch mewn siocled fel bod yn siocled yn ei

apio’n llwyr. Mmm! Mae rhai pobl yn dweud ei bod hi’n bosib creu

gni neu Ynni drwy ddefnyddio siocled!

im ond rhai o’r pethau amrywiol gallwch chi eu gwneud gyda siocled sydd wedi eu rhestru uchod. Mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd.

Car arbennig - yr ecoF3

Dyma i chi gar diddorol – car rasio Fformiwla 3 sydd wedi ei greu o lysiau. Mae’r corff wedi ei greu o datws, yr olwyn lywio o foron a sedd y gyrrwr o ffa soya ac, yn rhyfeddol, mae’r injan yn defnyddio olew llysiau a braster siocled!

Dyma’r car rasio eco cyntaf ond, yn anffodus, nid yw’n cael cystadlu mewn rasys ceir gan nad yw’r tanwydd yn cadw at y rheolau.

Mae’n gallu cyrraedd 145 m.y.a.

Fideo: https://www.youtube.com/watch?v=piGsqwKlPmY

Egni neu Ynni o Siocled

Mae llawer o ddadlau wedi bod ynglŷn â’r ffordd orau o greu egni neu ynni. Mae rhai o blaid ynni’r haul ac maen nhw’n defnyddio paneli haul i’w greu. Mae pobl eraill yn meddwl mai ynni gwynt yw’r gorau a’r glanaf ac mae pobl eraill yn canmol ynni niwclear. Yn sicr, mae manteision ac anfanteision i’r dulliau hyn o greu ynni.

Ond faint o bobl sydd wedi ystyried ynni siocled?

Wel, yn 2006, aeth gwyddonwyr ym Mhrifysgol Birmingham ati i greu ynni siocled drwy ddefnyddio’r gwastraff sy’n cael ei greu wrth gynhyrchu siocled. Drwy gyfuno bacteria e-coli â’r gwastraff hwn, llwyddon nhw i greu hydrogen, sy’n danwydd glân iawn.

Nid yw’r cynllun wedi cael ei ddatblygu ymhellach ar hyn o bryd – rhywbeth i’r dyfodol, efallai –  ond mae’n siwr y byddai pawb yn fodlon helpu gyda’r prosiect drwy fwyta cymaint o siocled â phosib!

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
olwyn lywio yr olwyn mae'r gyrrwr yn ei defnyddio i lywio'r car steering wheel
tanwydd rhywbeth sy'n cael ei ddefnyddio i greu ynni neu wres fuel
o blaid yn cytuno â in favour of
manteision lluosog mantais; pwyntiau da advantages
anfanteision lluosog anfantais; pwyntiau gwael disadvantages
ystyried meddwl yn ddwys am (to) consider
cyfuno cymysgu gyda'i gilydd (to) combine