24 Medi 2018

Annwyl Olygydd,

Mae’r bariau a’r bocsys lliwgar o siocled sy’n dechrau ymddangos ar silffoedd ein siopau a’n harchfarchnadoedd yn dangos bod y Nadolig ar y ffordd!  Maen nhw’n ddeniadol … maen nhw’n gyffrous ac, yn sicr, maen nhw’n cynnig danteithion blasus tu hwnt.

Meddyliwch am funud am y tri ansoddair yna: “deniadol”, “cyffrous” a “blasus”! Mor wahanol ydyn nhw i’r ansoddeiriau y gellid eu defnyddio i ddisgrifio profiad y ffermwyr sy’n tyfu’r ffa sy’n cynhyrchu’r siocled. Byddai’r ansoddeiriau “tlawd”, “truenus” a “digalon” yn fwy addas ar gyfer eu bywyd nhw – bywyd o weithio di-baid er mwyn gwneud yn siwr ein bod ni’n cael ein gwala o siocled dros y Nadolig. Yn wir, ychydig iawn ohonyn nhw sydd hyd yn oed wedi gweld y mathau amrywiol o siocled rydyn ni’n eu bwyta, heb sôn am eu blasu! Na, treulio oriau caled yn cynhyrchu a gwerthu ffa coco maen nhw’n ei wneud, heb brofi’r pleser o gnoi i mewn i stribed o siocled, teimlo’r crac wrth iddo hollti’n rhydd o’r bar ac yna mwynhau’r melyster bendigedig sy’n llenwi’r geg.

A dyma her i chi. Cymharwch y ddau lun yma:

Mae’r rhain yn dangos y bwlch enfawr sy’n bodoli rhwng plant a phobl ifanc y gorllewin sy’n cael mwynhau’r fath ddanteithion, a chaledi bywyd plant a phobl ifanc sy’n gweithio fel caethweision ar rai o’r ffermydd coco.

 Oeddech chi’n gwybod bod dros 2 filiwn o blant a phobl ifanc yn gweithio ar ffermydd coco hyd yn oed heddiw? Mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw rhwng 12 ac 16 oed er bod rhai mor ifanc â 5 yn gweithio yno hefyd. Mae rhai’n dringo’r coed er mwyn torri’r ffrwythau; yna, gyda machete, heb unrhyw fenig diogelwch, maen nhw’n hollti’r podiau ar agor – gallai pob trawiad o’r machete dorri llaw’r plentyn i ffwrdd. Mae rhai’n pacio ac eraill yn cario sachau trwm; mae rhai’n defnyddio llifiau cadwyn i dorri coed, eto heb ddillad diogelwch. Mae rhai’n chwistrellu chwynleiddiaid ar y tir, gan anadlu’r cemegau, gan nad oes ganddyn nhw fwgwd dros eu cegau a’u trwynau ac mae rhai’n tynnu cartiau. Hyn i gyd er mwyn sicrhau ein bod ni’n cael Santa siocled … neu far mawr o siocled … neu focs o siocledi yn ein sanau Nadolig eleni! Yn lle’r pensil, y machete yw offer arferol y rhain. Yn lle’r ystafell ddosbarth, coedwig o goed coco yw eu haddysg – neu eu diffyg addysg!

Nid hynny’n unig, ond ydych chi erioed wedi ystyried yr effaith mae’r siocledi byddwch chi’n eu cael dros y Nadolig yn ei gael ar yr amgylchedd? Wrth i’n hawydd ni am siocled gynyddu, mae’r ffermydd coco’n tyfu’n fwy, ac felly mae mwy a mwy o dir yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu coco. Beth yw effaith hyn? Clirio ardaloedd mawr, gan gynnwys rhannau o’r fforestydd glaw, er mwyn gwneud lle i fwy a mwy o goed … a mwy a mwy o goco … a mwy a mwy o siocled! Mae hyn, wrth gwrs, yn bygwth bioamrywiaeth yr ardaloedd ac mae cemegau’n difetha’r tir ac yn gwenwyno’r dŵr.

Ble byddwch chi’n prynu’ch siocledi eleni? Mewn siop siocledi …  ar y we … neu mewn archfarchnad o bosib – lle bynnag maen nhw rhataf mae’n siwr! Ond cofiwch, da chi, bydd pris y siocled yn uchel ble bynnag byddwch chi’n ei brynu!

Yn gywir

Will Smith

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
danteithion lluosog dantaith; bwyd blasus tu hwnt delicacies
di-baid heb ddiwedd endless
gwala digonedd fill
melyster enw sy'n gysylltiedig â melys sweetness
caethweision lluosog caethwas; pobl sy'n cael eu gorfodi i weithio mewn amgylchiadau anodd heb dâl slaves
llifau cadwyn lluosog llif gadwyn; llifiau gyda'r dannedd wedi eu gosod ar gadwyn chainsaws
chwistrellu saethu hylif allan drwy chwistrell neu bibell (to) spray
chwynleiddiad cemegau sy'n lladd chwyn weedkillers
awydd dymuniad desire
difetha distrywio (to) destroy