Cysylltu â ni

Dringo a neidio...

C 1_2

Arfordiro yn Sir Benfro

Beth yw arfordiro?

Dringo craig… neidio i mewn i'r môr … nofio at graig arall … dringo'r graig … neidio i mewn i'r môr … nofio at graig arall ... Os ydych chi'n hoffi antur, cyffro a her, dyma'r gamp i chi!

Pa mor hir yw'r sesiynau?

Mae'n dibynnu! Mewn sesiwn hanner diwrnod, gallwch chi nofio, dringo a neidio o gwmpas rhan o'r arfordir yn ardal Tyddewi, Sir Benfro. Mewn sesiwn 2 awr gallwch chi arfordiro mewn un bae bach, cysgodol.

Pa fath o ddillad sydd eu hangen?

Hen bâr o siorts a chrys T a hen bâr o dreinyrs. Byddwch chi'n cael benthyg siwt wlyb, helmed a siaced arbennig i'ch helpu chi i godi i wyneb y dŵr ar ôl deifio. Hefyd, bydd angen tywel a dillad sych ar ôl i chi orffen y sesiwn.

Oes rhaid bod yn nofiwr cryf?

Nac oes - ond rhaid gallu nofio.

Oes rhaid bod yn ddringwr da?

Nac oes - byddwch chi'n dringo gwahanol fathau o greigiau a cherrig. Os oes rhai'n rhy anodd i chi, gallwch chi nofio o'u cwmpas.

Oes rhaid bod dros 18 oed?

Nac oes - ond rhaid bod dros 8 oed. Rhaid bod yn iach hefyd.

Pwy sy'n dod fel arfer?

Pobl sy'n mwynhau cyffro ac antur. Mae arfordiro'n addas ar gyfer teuluoedd, ffrindiau, partïon pen-blwydd ac mae rhai cwmnïau'n anfon eu staff i arfordiro er mwyn datblygu sgiliau Gweithio Gydag Eraill a Datrys Problemau.

C 1_1

Ydy arfordiro'n beryglus?

Ydy - os nad ydych chi'n cymryd gofal. Ond os ydych chi'n dod i arfordiro gyda chwmni proffesiynol fel ni, byddwch chi'n cael sesiwn byr o hyfforddiant cyn dechrau, dillad diogelwch a bydd tywysydd profiadol yn eich arwain chi i'r lleoedd gorau ac yn gofalu amdanoch chi drwy'r amser. Ddylech chi byth wneud y gamp yma ar eich pen eich hun, heb hyfforddwr proffesiynol.

Pam arfordiro?

Mae'n hwyl! Mae'n gyffrous! Mae'n anhygoel! Dewch i weld drosoch eich hun!

Lluniau gan TYF Adventures.

Geirfa
arfordironofio, dringo creigiau a deifio i mewn i’r môrcoaststeering
hersialenschallenge
tywysyddperson sy’n arwainguide
Tasgau
TASG 1
Rhestrwch gymaint o chwaraeon dŵr â phosib mewn munud. Cymharwch eich rhestri. Pwy sy’n gallu gwneud y rhestr hiraf?
TASG 2
Darllenwch y darn eto, yna lawrlwythwch y tasgau.
TASG 3
Defnyddiwch y wybodaeth yn y darn i geisio hysbysebu arfordiro yng Nghymru. Gallwch chi greu taflen, hysbyseb neu lythyr ar gyfer papur bro, cyfweliad ar gyfer slot radio neu sgript ar gyfer hysbyseb ar y teledu.