Os edrychwch chi ar wefan y Gemau Paralympaidd, fe welwch chi
restr o'r cystadlaethau Paralympaidd. Mae rhai o'r cystadlaethau'n
debyg i'r Gemau Olympaidd, ond eu bod wedi eu haddasu ar gyfer pobl
anabl.
Mae rhai o'r gemau'n hollol wahanol, fodd bynnag, fel Boccia a
Phêl-gôl.
Mae'r gêm hon ar gyfer unigolion, parau neu dimau mewn cadair
olwyn. Mae'n cael ei chwarae ar gwrt arbennig.
1. Mae'r chwaraewyr yn cael chwe phêl las neu goch.
2. Mae pêl fach wen - y "jac" - yn cael ei thaflu ar y
cwrt.
3. Yna, rhaid i'r cystadleuwyr anelu'r peli coch a glas at
y jac. Gallant ddefnyddio dwylo, traed neu, os oes angen, ramp
arbennig.
4. Mae'r chwaraewyr sy'n anelu'r bêl agosaf at y jac yn
ennill pwynt. Yn ogystal, maent yn cael pwynt am bob pêl arall sy'n
nes at y jac na pheli eu gwrthwynebwyr.
5. Y chwaraewr neu'r tîm sydd â'r nifer fwyaf o bwyntiau ar
ddiwedd y gêm sy'n ennill.
Mae'r gêm hon ar gyfer pobl ddall neu bobl sydd â nam ar eu
llygaid. Gan fod gan rai o'r cystadleuwyr well golwg na'i gilydd,
efallai, rhaid iddynt wisgo sbectol dywyll arbennig er mwyn sicrhau
nad oes neb yn gallu gweld o gwbl. Maent yn chwarae mewn timau o
dri - ar gwrt arbennig. Mae'r holl linellau o gwmpas y cwrt neu ar
draws y cwrt wedi eu gwneud drwy ddefnyddio tâp neu raff fel bod y
chwaraewyr yn gallu eu teimlo.
Gan nad ydynt yn gallu gweld y bêl, mae'r chwaraewyr yn
defnyddio pêl arbennig sy'n cynnwys clychau. Mae wyth twll yn y bêl
fel bod y chwaraewyr yn gallu clywed y clychau.
1. Mae'r chwaraewyr yn trio sgorio goliau drwy rolio'r bêl
i mewn i'r gôl.
2. Rhaid i aelodau'r tîm arall geisio rhwystro'r tîm rhag
sgorio drwy flocio'r bêl â'u cyrff
3. Rhaid i'r gynulleidfa beidio â gwneud unrhyw sŵn, fel
bod y chwaraewyr yn medru clywed y clychau yn y bêl