Mae Eirian Jones yn dyfarnu mewn gemau tennis yn Wimbledon.

Proffil
Geni: Aberystwyth
Magu: Blaenpennal, Ceredigion
Ysgolion: Ysgol Gynradd Tanygarreg,
Blaenpennal, Ysgol Uwchradd Tregaron
Ar ôl yr ysgol: Ennill gradd mewn Cymraeg a
Daearyddiaeth yn y brifysgol
Byd gwaith: Athrawes mewn ysgol gynradd yn
Lloegr ac yna mewn ysgol uwchradd yn ne Cymru; wedyn prifathrawes
mewn ysgol gynradd yng Ngwynedd; nawr golygydd llyfrau Saesneg yng
Ngheredigion.
Oedd gennych chi ddiddordeb arbennig mewn chwaraeon pan
oeddech chi yn yr ysgol?
Roeddwn i'n casáu cymryd rhan mewn chwaraeon yn yr ysgol! Yr unig
opsiynau oedd chwarae gemau tîm fel hoci a phêl-rwyd. Doedd dim
cyfle i wneud unrhyw fath o chwaraeon eraill ond roedd gen i
ddiddordeb mewn gwylio tennis a phan es i i'r brifysgol, ces i
gyfle i brofi mathau eraill o chwaraeon fel cleddyfa, rhedeg traws
gwlad a chwarae tennis, wrth gwrs! Yna, dechreuais i gymryd rhan
mewn chwaraeon er mwyn cadw'n heini ac, yn ystod y deng mlynedd
diwethaf, dw i wedi cwblhau pedwar marathon (gan gynnwys Llundain
ac Efrog Newydd), saith hanner marathon a dau driathlon. Dw i wedi
dringo i gopa Kilimanjaro ac i Everest Base Camp a dw i wedi
cwblhau'r ras feicio o Lundain i Brighton. Byddai fy nghyn-athrawes
chwaraeon yn falch iawn ohono i!
Sut daethoch chi i gael swydd dyfarnwr yn
Wimbledon?
Roeddwn i'n byw yng nghanolbarth Lloegr ar y pryd. Es i i
Wimbledon un flwyddyn a gwelais i hysbyseb yn gofyn am ddyfarnwyr
tennis. Felly, dyma ymuno â'r British Tennis Umpires Association
(ABTO erbyn hyn) a dechrau dyfarnu mewn twrnameintiau bach mewn
clybiau lleol, yna mewn rhai proffesiynol ac yna daeth yr alwad i
ddyfarnu yn Wimbledon am y tro cyntaf yn 1998.
Erbyn hyn, dw i wedi dyfarnu mewn 13 Wimbledon - felly dw i wedi
treulio hanner blwyddyn gyfan o'm hoes yno!
Pa fath o hyfforddiant gawsoch chi?
Bu'n rhaid mynychu sawl cwrs er mwyn dysgu rheolau tennis cyn mynd
i Wimbledon, ac wedyn cael cryn dipyn o brofiad o ddyfarnu mewn
twrnameintiau - dyna'r hyfforddiant gorau.
Beth yn union rydych chi'n ei wneud fel dyfarnwr yn
Wimbledon?
Er fy mod i'n eistedd yng nghadair uchel y dyfarnwr mewn
twrnameintiau eraill, yn Wimbledon dw i'n gweithio mewn tîm o ddeg
fel dyfarnwr llinell. Mae yna ddyfarnwr yn gwylio pob llinell ac yn
penderfynu a yw'r bêl i mewn neu allan ar eu llinell nhw. Dw i'n
gweithio ar un cwrt bob dydd ac mewn shifftiau o awr a chwarter ar
y tro.
Ydych chi wedi cyfarfod â llawer o chwaraewyr tennis
enwog?
Dw i wedi bod yn ffodus tu hwnt ac wedi dyfarnu yng ngemau'r
chwaraewyr tennis enwog i gyd. Un flwyddyn bues i'n lwcus i gael
dyfarnu mewn tair o gemau Roger Federer yn Wimbledon.
Oes rhai chwaraewyr wedi anghytuno â'ch
dyfarniad?
Wrth gwrs! Pan mae gêm yn arbennig o agos, mae'r chwaraewyr o dan
bwysau enfawr i ennill pob pwynt. Maen nhw'n siomedig iawn os nad
ydyn nhw'n ennill y pwynt. Mae rhai'n dadlau wedyn! Ond nawr, mae
camerâu Hawk Eye yn medru helpu'r dyfarnwyr a'r chwaraewyr
os oes yna anghytuno am y bêl. Ond nid yw technoleg Hawk
Eye ar gael ar bob cwrt, cofiwch!
Beth fyddai'ch cyngor chi i rywun sydd eisiau cael gyrfa
yn y byd chwaraeon?
Mae angen cryn dipyn o ddyfalbarhad ac amynedd i lwyddo. Mae'r
ffordd tuag at lwyddiant yn un hir dros ben. Rhaid cymryd yr
amserau da gyda'r amserau drwg. Eleni, bydda i'n gweithio yn
Wimbledon am y tro olaf ac yn dyfarnu mewn cystadlaethau tennis yn
y Gemau Olympaidd. Dw i'n edrych ymlaen yn fawr iawn at fod yn rhan
o'r cyfan!