Mae Oscar Pistorius yn gyflym! Mae e'n gyflym iawn,
iawn! Mae e'n gallu rhedeg 400 metr mewn 45.07 eiliad!
Proffil

Enw: Oscar Pistorius
Geni: 22 Tachwedd 1986
Man geni: Johannesburg, De Affrica
Cartref: Pretoria, De Affrica
Rhedeg dros: De Affrica
Campau: Rhedeg yn y 100m, 200m, 400m
Amser: 100m: 10.91 eiliad (2007), 200m: 21.41
eiliad (2010), 400m: 45.07 eiliad (2011)
Llwyddiant arbennig: Gemau Paralympaidd
Beijing, 2008, 3 medal aur - yr unig athletwr Paralympaidd i
gyflawni hyn. Pencampwriaeth Paralympaidd y Byd, 2011, 3 medal aur
- yr unig athletwr Paralympaidd i gyflawni hyn.
Mae Oscar Pistorius yn athletwr Paralympaidd arbennig iawn.
Cafodd ei eni heb ffibwla, sef yr asgwrn hir, tenau sy'n mynd o'r
pen-glin i lawr at y ffêr neu'r pigwrn.
Pan oedd yn 11 mis oed, bu'n rhaid torri ei ddwy goes i ffwrdd
hanner ffordd rhwng y pen-glin a'r ffêr neu'r pigwrn. Chwe mis yn
ddiweddarach, cafodd ei goesau a'i draed prosthetig cyntaf a
dysgodd sut i'w defnyddio'n fuan iawn.
Pan oedd yn ifanc, roedd yn mwynhau chwaraeon yn fawr. Yn yr
ysgol, roedd yn chwarae polo dwr, rygbi, criced a thennis ac roedd
yn mwynhau cymryd rhan mewn cystadlaethau triathlon, reslo a
bocsio.
Yn 2003, cafodd ddamwain tra oedd yn chwarae rygbi a chafodd
anaf difrifol i'w ben-glin. Er mwyn ceisio gwella a chryfhau,
awgrymodd doctor y dylai ddechrau rhedeg ar drac. Yna, yn 2004,
cymerodd ran yn ei ras gyntaf - 100 metr. Enillodd y ras mewn 11.72
eiliad. Beth oedd yn rhyfeddol am hyn oedd ei fod wedi rhedeg yn
gynt na'r record Baralympaidd ar y pryd, sef 12.20 eiliad.
Aeth ymlaen, y flwyddyn wedyn, i gystadlu yn y Gemau
Paralympaidd yn Athen, Groeg, lle enillodd y ras 200m mewn 21.97
eiliad. Enillodd fedal efydd am y ras 100 metr hefyd.
Erbyn hyn, roedd e eisiau cystadlu yn erbyn pobl heb anabledd.
Ym mis Mawrth 2005, daeth yn chweched ym Mhencampwriaethau De
Affrica yn y ras 400m ar gyfer pobl heb anabledd. Yna, ym mis
Gorffennaf 2007, daeth yn ail yn y ras 400m ar gyfer pobl heb
anabledd - mewn 46.9 eiliad.
Fodd bynnag, dechreuodd rhai pobl holi a oedd hi'n deg ei fod yn
cael rhedeg yn y rasys hyn. A oedd ei goesau a'i draed prosthetig
yn rhoi mantais iddo dros bobl abl? Felly, ym mis Tachwedd 2007,
cymerodd ran mewn arbrofion ym Mhrifysgol Chwaraeon Cologne.
Dangosodd y rhain ei fod yn medru rhedeg yr un mor gyflym â phobl
eraill ond ei fod yn defnyddio llai o egni na nhw. Mewn geiriau
eraill, daeth y gwyddonwyr i'r casgliad fod y traed prosthetig yn
rhoi mantais iddo a chafodd ei ddiarddel o'r cystadlaethau hyn.
Gwrthododd Oscar dderbyn y penderfyniad ac aeth i America i
gymryd rhan mewn mwy o brofion gwyddonol. Yno, daeth y gwyddonwyr i
gasgliad gwahanol iawn. Dangoson nhw fod y profion cyntaf wedi
canolbwyntio ar berfformiad Oscar tra oedd yn rhedeg mewn llinell
syth. Doedden nhw ddim wedi ystyried ffactorau fel dechrau ras,
cyflymu yn ystod ras ac ati. Penderfynwyd nad oedd ganddo unrhyw
fantais o gwbl dros bobl heb anabledd a chafodd yr hawl i gystadlu
yn eu herbyn unwaith eto.
Canolbwyntiodd ar y Gemau Paralympaidd yn unig yn 2008 ac
enillodd fedalau aur yn y rasys 100 metr, 200 metr a 400 metr, gan
osod record newydd o 47.49 eiliad ar gyfer y 400 metr. Fodd bynnag,
mae'n gobeithio cystadlu yn y Gemau Olympaidd a'r Gemau
Paralympaidd yn Llundain yn 2012. Cadwch lygad ar y newyddion i
weld a fydd e'n llwyddo i wneud hyn!
Prif lun:
Kastom
Llun proffil: Selligpau