Gerallt Phillips

Rhifyn 9 - Ar y ffordd
Gerallt Phillips

Mae Gerallt Phillips yn gyrru lorïau gyda chwmni Mansel Davies, Llanfyrnach, Sir Benfro.

Ers faint rydych chi'n gyrru lorïau?

llanfyrnach_300x228.jpgRwy'n gyrru lorïau i gwmni Mansel Davies ers 37 o flynyddoedd nawr.

 

Pa lori rydych chi'n ei gyrru ar hyn o bryd?

Volvo FH12 yw'r lori ar hyn o bryd. Mae hi'n gallu cario 44 tunnell ac mae ganddi 520 marchnerth.

Tanc mae'r lori'n ei dynnu, felly hylif rwy'n ei gario bob amser.

 

Ble rydych chi wedi bod yr wythnos hon?

Wel, rwy wedi teithio tua 2,000 o filltiroedd, siŵr o fod.

Dechreuais i o sir Benfro gyda llond tanc o laeth i Langefni. Wedyn, es i â'r lori'n wag i Landyrnog, ger Rhuthun, a chasglu maidd yno.

Roedd yn rhaid imi fynd â'r maidd draw i'r Iseldiroedd, felly bant â fi. Ar ôl dadlwytho, casglais i lwyth o sudd oren yn yr Iseldiroedd. Teithio'n ôl wedyn i Brydain, a mynd â'r sudd oren i Shepton Mallet (Gwlad yr Haf).

Wedyn codais i lwyth arall o faidd o Bridgewater a mynd ag e i Felin-fach, ger Aberaeron, lle mae ffatri cwmni Volac.

truck-map.jpg

Mae'n swnio fel taith hir iawn.

Ydy, mae'n hir, ond rwy' wedi gwneud y daith dros sawl diwrnod, cofiwch. Rwy'n cael gyrru 15 awr y dydd am dri diwrnod, a 13 awr y dydd am ddau ddiwrnod. Bob pedair awr, rhaid cael tri chwarter awr o egwyl. Hefyd, mae'n rhaid cael naw awr o egwyl dros nos dair gwaith yr wythnos, ac un ar ddeg awr o egwyl ddwywaith yr wythnos. Cyfraith Ewrop yw hon.

 

Pryd rydych chi'n dechrau gyrru yn y bore, fel arfer?

Wel, rwy'n dechrau'n gynnar, tua 6 o'r gloch y bore. Mae llai o draffig o gwmpas felly mae'r daith yn fwy pleserus.

Rydych chi'n cario llawer o bethau gwahanol yn y tanc. Sut rydych chi'n golchi'r tanc?

Mae golchi'r tanc yn waith pwysig sy'n cymryd tua thri chwarter awr. Rwy'n rhoi pibau dŵr wrth y tanc ac mae pwysau'r dŵr yn golchi'r tanc yn lân. Mae'n union fel golchi cwpan mewn ffordd - rydych chi'n yfed gwahanol hylifau, ac yn golchi'r cwpan yn lân rhwng pob hylif.

 

Sut mae pethau wedi newid ers ichi ddechrau gyrru lorïau?

Y newid mwyaf yw'r rheolau sydd wedi dod i mewn, siŵr o fod. Pan ddechreuais i weithio, roeddwn i'n ysgrifennu mewn llyfr: ble roeddwn i'n dechrau ac yn gorffen y daith. Ond nawr mae tacograff digidol yn cofnodi pob eiliad o'r daith. Mae swyddfa'r cwmni'n gwybod yn union ble rwy' i bob amser.

 

Sut fath o fywyd yw bywyd gyrrwr lorri?

Rwy' bant o gartref dipyn, wrth gwrs. Rwy'n byw yn y lori pan fyddaf i'n gweithio, mae gwely bync yn y caban, gydag oergell a theledu, felly'r lori yw fy nghartref i wedyn. Mae'r cwmni'n fodlon i ni ddod ag aelodau o'r teulu gyda ni weithiau, felly'r llynedd, daeth fy wyres gyda fi i'r Iseldiroedd. Roedd e'n brofiad diddorol iawn iddi hi.

 

Beth yw'r llwythi mwyaf diddorol rydych chi wedi'u cario?

Pan oedd angen newid y cae yn Stadiwm y Mileniwm, fi fuodd yn cario'r tyweirch o Swydd Efrog  i Gaerdydd. Wedyn, roedd hi'n rhyfedd clywed bod tîm rygbi Cymru'n chwarae gartref yn Stadiwm y Mileniwm 'ar dir Cymru', a finnau'n gwybod bod y cae wedi dod o Loegr!

Hefyd, un tro, cafodd un o hofrenyddion yr heddlu ddamwain, ac roedd yn rhaid imi gario'r hofrennydd wedi malu ar gefn y lori.

 

Map: Google Maps

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
tunnell uned pwysau ton
marchnerth uned cryfder cerbyd horsepower
hylif unrhyw beth gwlyb sy'n llifo fel dêr fluid
maidd hylif sy'n weddill arôl gwneud caws whey
Gwlad yr Haf sir yn Lloegr Somerset
tacograff digidol peiriant sy’n nodi popeth mae lorri/bws yn ei wneud digital tacograph
tyweirch darnau o dir a phorfa turf