Roald Dahl
Matilda. Llun gan Anastasia Alén (Flickr)
Llyfrau Roald Dahl. Llun gan Wee Sen Goh (Flickr)
Plac ar Plass Roald Dahl, ym Mae Caerdydd. Yma mae’r Senedd a Chanolfan Mileniwm Cymru. Roedd yn arfer bod yn un o’r dociau. Gair Norwyeg yw ‘Plass’, a ‘lle’ yw ei ystyr.
Roald Dahl a'i chwiorydd
Roald Dahl fel babi
Mae eleni’n flwyddyn fawr yng Nghaerdydd gan fod can mlynedd ers i Roald Dahl gael ei eni yn y ddinas. Bydd dathlu mawr o 16 i 17 Medi, gyda sioe liwgar ‘City of the Unexpected’ yng Nghanolfan y Mileniwm. Hefyd, bydd arddangosfa o waith Quentin Blake, sydd wedi darlunio llyfrau Roald Dahl.
Ond beth yn union yw cysylltiad Roald Dahl â Chaerdydd?
Plac glas sydd ar wal bwyty Tsieineaidd yn Llandaf. Mae’n cyfeirio at stori’r llygoden yn y jar losin.
Yn ei hunangofiant, Boy, mae Roald Dahl yn sôn amdano ef a’i ffrindiau’n mynd i siop losin Mrs Pratchett yn Llandaf. Dynes gas iawn oedd hi. Ar ôl i un bachgen ddod o hyd i lygoden farw yn yr ysgol, penderfynodd Roald a’i ffrindiau chwarae tric arni. Dyma Roald yn gollwng y llygoden farw mewn jar o losin heb i Mrs Pratchett weld. Wedyn, wrth iddi hi godi’r jar a sylwi ar y llygoden, cafodd hi gymaint o sioc hyd nes iddi ollwng y jar i’r llawr. Torrodd y jar yn deilchion. Roedd Mrs Pratchett yn gynddeiriog, a gwnaeth yn siŵr fod y bechgyn yn cael eu cosbi’n gas. Oherwydd hyn, penderfynodd mam Roald ei symud i’r ysgol ger Weston-super-Mare.