1916: geni Roald Dahl yng Nghaerdydd

Rhifyn 32 - Blynyddoedd yn gorffen â 6
1916: geni Roald Dahl yng Nghaerdydd

Mae eleni’n flwyddyn fawr yng Nghaerdydd gan fod can mlynedd ers i Roald Dahl gael ei eni yn y ddinas. Bydd dathlu mawr o 16 i 17 Medi, gyda sioe liwgar ‘City of the Unexpected’ yng Nghanolfan y Mileniwm. Hefyd, bydd arddangosfa o waith Quentin Blake, sydd wedi darlunio llyfrau Roald Dahl.

Ond beth yn union yw cysylltiad Roald Dahl â Chaerdydd?

  • Cafodd Roald Dahl ei eni yng Nghaerdydd yn 1916. Roedd ei dad, Harald Dahl, yn dod o Oslo, Norwy yn wreiddiol, ond roedd wedi dod i Gaerdydd i weithio. Roedd Sofie, mam Roald, yn dod o Norwy hefyd ac roedd Roald yn siarad Norwyeg a Saesneg.
  • Cafodd Roald Dahl ei fedyddio yn yr Eglwys Norwyaidd yn nociau Caerdydd. Hefyd, roedd y teulu’n mynd yno i addoli. Roedd yr eglwys yn rhoi croeso i forwyr o Norwy a oedd yn cludo pren i wneud propiau yn y pyllau glo yn ne Cymru. Yn y 1970au, roedd yr eglwys mewn cyflwr gwael, ac arweiniodd Roald Dahl ymgyrch i godi arian i’w hachub.
  • Mae rhieni Roald Dahl wedi eu claddu ym mynwent Eglwys Ioan Fedyddiwr, Radyr, Caerdydd.
  • Buodd Roald yn byw yn Radyr a Llandaf.
  • Roedd yn hoffi mynd i wylio Caerdydd yn chwarae pêl-droed gyda Joss (neu Jones) y garddwr.
  • Aeth Roald i Ysgol y Gadeirlan, Llandaf pan oedd yn saith oed, am ddwy flynedd.
  • Symudodd Roald Dahl o Landaf i ysgol breswyl ger Weston-super-Mare pan oedd yn naw oed, ond roedd y teulu’n dal i fyw yn Llandaf tan oedd Dahl yn 11 oed.
  • Roedd teulu Roald Dahl yn mynd i Ddinbych-y-pysgod yn gyson ar eu gwyliau Pasg, ond i Norwy y bydden nhw’n mynd ar eu gwyliau haf.

Blue_plaque_for_Roald_Dahl.jpg

Plac glas sydd ar wal bwyty Tsieineaidd yn Llandaf. Mae’n cyfeirio at stori’r llygoden yn y jar losin.

Yn ei hunangofiant, Boy, mae Roald Dahl yn sôn amdano ef a’i ffrindiau’n mynd i siop losin Mrs Pratchett yn Llandaf. Dynes gas iawn oedd hi. Ar ôl i un bachgen ddod o hyd i lygoden farw yn yr ysgol, penderfynodd Roald a’i ffrindiau chwarae tric arni. Dyma Roald yn gollwng y llygoden farw mewn jar o losin heb i Mrs Pratchett weld. Wedyn, wrth iddi hi godi’r jar a sylwi ar y llygoden, cafodd hi gymaint o sioc hyd nes iddi ollwng y jar i’r llawr. Torrodd y jar yn deilchion. Roedd Mrs Pratchett yn gynddeiriog, a gwnaeth yn siŵr fod y bechgyn yn cael eu cosbi’n gas. Oherwydd hyn, penderfynodd mam Roald ei symud i’r ysgol ger Weston-super-Mare.