1946: Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn perfformio am y tro cyntaf

Rhifyn 32 - Blynyddoedd yn gorffen â 6
1946: Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn perfformio am y tro cyntaf

Dyma gyfweliad ag Eleri Gwilym, myfyrwraig sy’n astudio canu yn Llundain ac sy’n gobeithio canu mewn cwmni opera yn y dyfodol.

Royal_Academy_of_Music,_London_W1_small.jpg

 Academi Frenhinol Cerddoriaeth, Llundain

 “Gwlad beirdd a chantorion” yw Cymru, yn ôl ein hanthem genedlaethol, ac yn sicr mae’r wlad yn cynhyrchu mwy na’i siâr o gantorion llwyddiannus a byd-enwog. Un o’r rhai sy’n gobeithio dilyn ôl troed enwogion fel Bryn Terfel yw Eleri Gwilym, o Abertawe. Astudiodd y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd, a nawr mae’n dilyn cwrs gradd Meistr yn y Celfyddydau mewn Perfformio Lleisiol yn Academi Frenhinol Cerddoriaeth, yn Llundain.

 

Llun Eleri Gwilym.jpg

Eleri Gwilym. Ffotografydd: Lewis Cole.

Dyma gyfweliad ag Eleri Gwilym.

 

Gweiddi:

Sut penderfynaist ti dy fod ti eisiau canu?

Eleri Gwilym:

Roeddwn i’n mwynhau canu pan oeddwn i’n ifanc iawn. Bues i’n cystadlu mewn eisteddfodau pan oeddwn i’n ddisgybl yn yr ysgol gynradd, Bryn-y-Môr ac wedyn yn yr ysgol gyfun, Bryn Tawe, yn Abertawe. Sefais sawl arholiad canu hefyd. Er i mi wneud gradd yn y gyfraith cyn mynd i astudio canu, roeddwn i’n gwybod mai canu roeddwn i eisiau ei wneud yn y pen draw.

Gweiddi:

Beth yw’r broses o gael lle yn yr Academi?

Eleri Gwilym:

Roedd rhaid ysgrifennu cais a datganiad personol yn dweud pam roeddwn i eisiau astudio canu. Roedd pawb yn cael cynnig clyweliad, ac roedd hwnnw’n bwysicach na’r cais ysgrifenedig. Roedd rhaid paratoi tair cân, er mai dwy gân yr oedd rhaid eu canu ar y diwrnod.

Ar ôl llwyddo yn y cam cyntaf hwnnw, ces fy ngwahodd yn ôl am ail glyweliad a chyfweliad hefyd. Roeddwn i ar ben fy nigon pan gefais wybod imi gael lle.

Gweiddi:

Oes rhaid i ti deithio’n bell i’r Academi?

Eleri Gwilym:

Nac oes, rwy’n byw dafliad carreg o’r Academi, felly rwy’n cerdded yno ac yn cyrraedd tua 9:30 y bore fel arfer.

Gweiddi:

Sut mae rhywun yn ‘astudio canu’?

Eleri Gwilym:

Mae sawl rhan i’r cwrs. Mae’r amserlen yn llawn iawn! Rwy’n cael dwy awr o wersi canu unigol bob wythnos, gydag athro sy’n canolbwyntio ar dechneg canu. Hefyd, mae hanner awr o ganu gyda hyfforddwr sy’n fy nysgu sut mae lliwio darn a gwella’r dehongliad. Rwy’ hefyd yn cael gwersi drama, a gwersi symud hefyd. Mae’n anodd egluro’n union beth yw symud: nid dawns nac ymarfer corff chwaith. Mae’n ein helpu ni i ddod yn ymwybodol o’n cyrff wrth berfformio. Hefyd, rydyn ni’n cymryd rhan mewn golygfeydd o operâu dros y flwyddyn, a chanu fel rhan o gorws mewn cynhyrchiad o opera lawn hefyd. 

Gweiddi:

Ydy dysgu ieithoedd yn bwysig?

Eleri Gwilym:

Ydy, mae dysgu ieithoedd a sut mae ynganu ieithoedd yn allweddol. Felly rwy’n cael gwersi Eidaleg ac Almaeneg ar hyn o bryd a bydd gwersi Ffrangeg a Saesneg y tymor nesaf. Yn ogystal, byddwn ni’n gwrando ar ein gilydd yn canu yn yr ieithoedd rydyn ni wedi bod yn eu hastudio.

Gweiddi:

Beth yw pwrpas hynny’n union?

Eleri Gwilym:

Rwy’n credu bod hyn yn ein dysgu i glustfeinio ar yr iaith er mwyn gwella’r ffordd rydyn ni’n ei hynganu. Mae hyfforddwyr ieithoedd gyda ni hefyd sy’n rhoi sesiynau ynganu un ac un i ni. Felly, mae tipyn o bwyslais ar ieithoedd rhwng popeth.

Gweiddi:

Oes disgwyl i chi ymarfer llawer ar eich pennau eich hunain hefyd?

Eleri Gwilym:

Oes, rwy’n ymarfer am o leiaf ddwy awr y dydd. Mae ystafelloedd ymarfer ar gael ac rydych chi’n gallu cyfeilio i chi eich hun wrth ganu neu ofyn i rywun sy’n astudio cyfeilio ddod i ymarfer gyda chi.

Yn ogystal â hyn, rwy’n gweithio yn amgueddfa'r Academi o bryd i'w gilydd ac yn dysgu sut i addysgu hefyd, felly does dim llawer o amser i segura!

Gweiddi:

Oes cyfle i berfformio mewn cyngherddau?

Eleri Gwilym:

Oes, rwy’ wedi bod yn perfformio gweithiau gan Bach gydag ensemble lleisiol. Roedd y gerddorfa’n canu hen offerynnau.

Gweiddi:

Beth yw dy uchelgais?

Eleri Gwilym:

Hoffwn ganu mewn cwmni opera, dyna’r nod. Ond mae gen i ddwy flynedd yn yr Academi’n gyntaf.

Gweiddi:

Diolch yn fawr am y cyfweliad, Eleri, a phob dymuniad da gyda dy yrfa i’r dyfodol.