1956: agor Ysgol Glan Clwyd

Rhifyn 32 - Blynyddoedd yn gorffen â 6
1956: agor Ysgol Glan Clwyd

logo.jpg

 

Ysgol Glan Clwyd

 

Chwe deg mlynedd yn ôl, ym mis Medi 1956, agorodd Ysgol Glan Clwyd.

Beth sy’n arbennig am hynny, meddech chi? Wel, Ysgol Glan Clwyd oedd ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf Cymru. Roedd llawer o ysgolion cynradd Cymraeg i’w cael yn barod, a dechreuodd rhai deimlo bod angen addysg uwchradd Gymraeg hefyd.

Dr. Haydn Williams, Cyfarwyddwr Addysg yr hen Sir Fflint oedd y dyn allweddol a aeth â’r maen i’r wal. Llwyddodd i ddarbwyllo rhieni a chynghorwyr yr ardal fod angen ysgol uwchradd Gymraeg. Doedd dim angen i’r rhieni ymgyrchu’n hir cyn cael ysgol, fel digwyddodd mewn nifer o fannau eraill yng Nghymru.

Beth roedd Dr. Haydn Williams eisiau ei weld mewn ysgol uwchradd Gymraeg? Roedd yn gobeithio y byddai’r awyrgylch yn hollol Gymraeg, y byddai’r gwaith swyddfa yn cael ei wneud yn Gymraeg i gyd, ac y byddai llawer o’r pynciau’n cael eu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd ysgolion yn Seisnig iawn ar y pryd, hyd yn oed yn yr ardaloedd mwyaf Cymreig.

Ar y dechrau, adeiladau Ysgol Emmanuel, y Rhyl oedd cartref 95 disgybl a 12 athro’r ysgol. Ond yn Llanelwy, sir Ddinbych, nid nepell o’r Gadeirlan, y mae safle’r ysgol ers 1969. Dros y blynyddoedd, tyfodd yr ysgol i 500 disgybl yn 1969 ac yna
1 200 yn 1980. Ar ôl i Ysgol y Creuddyn gael ei hagor rhwng Llandudno a Bae Colwyn yn 1981, cwympodd niferoedd Ysgol Glan Clwyd i tua 900 am gyfnod. Erbyn hyn, mae lle i tua 1 000 o ddisgyblion yn yr ysgol.

Yn ystod y flwyddyn academaidd 2015-16, bydd yr ysgol yn cynllunio gwisg ysgol newydd i’w gwisgo am y tro cyntaf ym mis Medi 2017, pan fydd adeilad newydd yr ysgol, gwerth bron i £16 miliwn, yn cael ei agor. Wedyn, bydd lle i 1 250 o ddisgyblion yn yr ysgol.

Roedd y penderfyniad i agor Ysgol Glan Clwyd yn bwysig iawn, gan i nifer o ysgolion uwchradd eraill gael eu hagor yn ystod y degawd dilynol: Ysgol Maes Garmon (1961), Ysgol Gyfun Rhydfelen (1962), Ysgol Morgan Llwyd (1964) ac Ysgol Gyfun Ystalyfera (1969).

Ysgol_Glan_Clwyd,_Llanelwy_-_geograph.org.uk_-_707800.jpg