1966: adeiladu ffordd osgoi Port Talbot

Rhifyn 32 - Blynyddoedd yn gorffen â 6
1966: adeiladu ffordd osgoi Port Talbot

Yn 1966, agorwyd ffordd osgoi Port Talbot, A48(M), a ddaeth yn rhan o’r M4. Ar y pryd, hon oedd y rhan gyflymaf o’r daith rhwng dwyrain a gorllewin Cymru ar hyd ffordd yr A48.

Dyma ymson person sy’n byw ym Mhort Talbot ers 50 mlynedd.

Viaduct beside River Avan looking east.jpg

 Llun o ran o draffordd yr M4 ym Mhort Talbot yn cael ei hadeiladu

Gwanwyn 1965

Mae’r tŷ’n llawn llwch ar hyn o bryd. Oherwydd ei bod hi’n braf, mae’n anodd peidio ag agor y ffenestri, felly mae’r llwch yn codi wrth i’r lorïau mawr yrru heibio. Maen nhw wrthi’n gweithio’n ddyfal. Mae pileri mawr yn codi ar hyd llwybr y draphont a fydd yn cario’r ffordd osgoi newydd dros waelod Cwm Afan. Maen nhw’n edrych fel pileri teml yng ngwlad Groeg!

Rydyn ni wedi bod yn lwcus; doedd dim rhaid bwrw ein tŷ ni i lawr, fel digwyddodd i’n ffrindiau ddwy stryd i ffwrdd. Cafodd eu tŷ nhw ei brynu drwy orchymyn prynu gorfodol gan fod y stryd yn llwybr y ffordd osgoi. Maen nhw wedi symud i fyw i Faglan, felly dydyn nhw ddim yn rhy bell, diolch byth.

Ond rhaid cyfaddef, fydd Port Talbot byth yr un fath. Mae’r ffordd osgoi’n mynd i hollti’r dref, fwy neu lai. Ar y llaw arall, mae’n debyg fod rhaid derbyn y datblygiad newydd hwn er mwyn diogelu dyfodol economaidd yr ardal.

Gorffennaf 1966

Mae’r ffordd osgoi newydd agor! Ei henw ar hyn o bryd yw A48(M), ond mae’n debyg y bydd yn rhan o’r M4 newydd cyn hir.

Profiad annifyr braidd yw gweld y ceir yn gwibio ar y draphont uwch ein pennau. Hyd yn oed yn oriau mân y bore, mae grwnan y ceir a’r lorïau i’w glywed. Dyw hi byth yn hollol dawel, a byth yn hollol dywyll chwaith.

Bydd rhaid i ni fyw gyda hyn. Hon yw rhan gyflymaf y daith rhwng gorllewin a dwyrain Cymru. Roedd cymaint o dagfeydd traffig ar yr hen ffordd, yn enwedig pan fyddai’r gatiau’n dod i lawr er mwyn i drên y gwaith dur ei chroesi. O leiaf bydd hi’n cymryd llai o amser i deithio i Gaerdydd.

M4_Port_Talbot_J40_-_geograph.org.uk_-_41578.jpg

 Llun diweddar o’r rhan o draffordd yr M4 a agorwyd yn 1966.

Ionawr 2016

Anodd credu bod hanner can mlynedd wedi mynd heibio ers agor ffordd osgoi Port Talbot. Rydyn ni wedi byw gyda’r sŵn a’r llygredd, ac i beth? Bellach, dyma ran arafaf y daith ar hyd yr M4 yn ne Cymru. Mae cyfyngiad cyflymder o 50mya yma ers amser. Yn ddiweddar maen nhw wedi gosod camerâu cyflymder cyfartalog yma hefyd. Mae hynny’n golygu bod llai o sŵn, rhaid cyfaddef. Ond mae’r tagfeydd traffig wedi cynyddu dros y blynyddoedd, ac mae’n amlwg fod angen mwy na dwy lôn bob ffordd, yn enwedig yn yr oriau brig.

Mae’r draffordd yma i aros, gwaetha’r modd. Erbyn meddwl, efallai y byddai wedi bod yn well petaen ni wedi gorfod symud, fel ein ffrindiau ym Maglan.