Edrychwch ar y lluniau hyn sy’n dangos pa mor sych oedd hi yn 1976.
Dyma gerdd sy’n disgrifio’r sefyllfa.
Os ydyn ni’n aml yn cwyno,
Bod Cymru’n lle glawog a llaith,
Eleni does dim sôn am gawod,
’Mond heulwen ers cyfnod reit faith.
Mae’r holl gronfeydd dŵr at eu hanner,
Tryweryn sydd felly, rwy’n siŵr.
Mae rhannau o’r pentref a gollwyd
Yn codi i’r golwg o’r dŵr.
Does dim hawl i fynd â dŵr gwerthfawr
I ddyfrio planhigion yr ardd.
A rhaid derbyn nawr bod ein car ni
Yn frwnt ac yn fudr, nid hardd.
Rhaid arllwys y dŵr golchi llestri
I gadw ein tŷ bach yn lân,
’Sdim gobaith cael bath dwfn fel arfer,
Ac anodd yw diffodd pob tân.
Mae maes yr Eisteddfod* yn llychlyd,
Fu ’rioed ’Steddfod sychach na hon.
Rwy’n ysu am weld y glaw eto,
Yn ’sgubo dros Gymru fel ton!
*Cafodd Eisteddfod Genedlaethol 1976 ei chynnal yn Aberteifi.