Mae ‘Cân y Glöwr’ gan Dafydd Iwan yn darlunio hen löwr yn cerdded yn y cwm lle cafodd ei eni a lle bu’n gweithio.
Gwrandewch ar ‘Cân y Glöwr’ gyda Dave Burns yn canu, gan ddilyn y geiriau:
Fe gerddai’r henwr yn araf
I lawr hyd heol y cwm,
Heibio i’r stryd lle bu’n chwarae gynt,
Ond heddiw yn unig a llwm.
Roedd creithiau’r glo ar ei dalcen
A chyrn o’r pwll ar ei law,
Ac wrth iddo gerdded hyd lwybr y gwaith,
Fe glywai ryw leisiau o draw.
Fe glywai leisiau y glowyr,
Wrth weithio yn nhywyllwch y ffas,
Alun Tŷ Canol a’i denor mor fwyn,
A Tomos yn cyd-ganu’r bas.
Fe gofiai am hwyl yr hen ddyddiau,
Pan oedd bywyd y cwm yn ei fri.
Fe gofiai y capel a’r llyfrgell yn llawn
Lle heddiw does ond dau neu dri.
A heno mae Tomos ac Alun
Yn naear y fynwent ill dau.
A does dim ar ôl yn awr i’r hen ŵr
Ond atgofion, a phwll wedi cau.
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
ffas | rhan dan ddaear o’r pwll glo lle roedd y glowyr yn torri’r glo | coal face |