1996: trychineb y ‘Sea Empress’

Rhifyn 32 - Blynyddoedd yn gorffen â 6
1996: trychineb y ‘Sea Empress’

Cliciwch yma i weld y Western Mail o’r cyfnod

 

BPM_SEA_EMPRESS.jpg

Y Sea Empress

Y trychineb

Ar 15 Chwefror 1996, roedd tancer olew y Sea Empress ar ei ffordd o Fôr y Gogledd i burfa olew Texaco ger Penfro. Tua 8 o’r gloch y nos, aeth yn sownd ar greigiau ar Benrhyn y Santes Anne. Dros yr wythnos ganlynol, gollyngodd y llong 72 000 tunnell fetrig o olew crai a 370 tunnell fetrig o olew tanwydd trwm.

  • Cyrhaeddodd yr olew arfordir Parc Cenedlaethol Sir Benfro a de sir Gaerfyrddin.
  • Costiodd hyd at £38 miliwn i’w lanhau ac i dalu iawndal i bobl fel pysgotwyr.
  • Cafodd 7 000 o adar eu glanhau ond bu farw’r rhan fwyaf.

Sefyllfa waeth?

Er bod y trychineb yn ddifrifol, gallai fod wedi bod yn llawer gwaeth.

  • Digwyddodd y trychineb ym mis Chwefror, felly roedd hi’n bosibl gwneud llawer o waith glanhau cyn i’r tymor ymwelwyr ddechrau adeg gwyliau’r Pasg. Gwnaeth y cyngor a gwirfoddolwyr ymdrech fawr mewn mannau poblogaidd gyda thwristiaid, fel Dinbych-y-pysgod, Saundersfoot a Phentywyn.
  • Diolch byth, chyrhaeddodd yr olew ddim o’r gwarchodfeydd natur pwysig fel Ynys Sgomer. Ar Sgomer, mae 10 000 pâr o balod a dros 300 000 pâr o adar drycin Manaw yn dod i fagu rhai bach ym mis Mai.

Ers y trychineb

Ers y trychineb, mae rhai newidiadau wedi digwydd:

  • Rhaid cael dau beilot sydd wedi cael hyfforddiant ar bob llong dros 120 000 tunnell fetrig. Dim ond un oedd ar y Sea Empress
  • Mae cyfrifiaduron yn rhoi gwybodaeth well am y llanw, e.e. pa mor gryf yw’r llanw.
  • Mae systemau gwell er mwyn ymateb yn gyflymach os bydd trychineb arall yn digwydd.