Yn 2013, Gair y Flwyddyn Geiriadur Saesneg Rhydychen oedd ‘selfie’, neu ‘hunlun’ yn Gymraeg.  Yn y cyfamser, mae’r hunlun bwyd (food selfie) wedi dod yn boblogaidd iawn ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dyma farn rhai pobl ifanc am yr hunlun bwyd, a chwiwiau hunluniau (selfie crazes) eraill:

   
Steffan: Dwi’n aml yn tynnu hunluniau bwyd os ydw i’n cael pryd arbennig. Weithiau dwi’n tynnu llun o’r bwyd ysgol ac yn ychwanegu sylw! Dim ond tipyn bach o hwyl yw e.
Beca: Dwi ddim yn hoffi gweld hunluniau bwyd. Does gen i ddim diddordeb mewn beth mae pobl yn ei fwyta. Weithiau mae pobl yn anfon lluniau o fwyd ffiaidd. Ych-a-fi!
Katie: Mae rhai bwytai’n gwahardd pobl rhag tynnu hunluniau bwyd. Dwi’n gweld hynny’n rhyfedd, achos mae’r cogyddion eu hunain bob amser yn dwlu ar ddangos lluniau o’u bwydydd ar wefan eu bwyty. Os yw’r bwyd yn dda, maen nhw’n cael hysbyseb am ddim!
Tom: Mae’n debyg fod Michelle Obama wedi dweud wrth ei merched am beidio ag anfon hunluniau bwyd at eu ffrindiau. Roedd hi’n dweud wrthyn nhw am anfon lluniau am bethau pwysicach. Dwi ddim yn siŵr a ydw i’n cytuno. Os oes diddordeb gan y ffrindiau yn y bwyd y mae’r merched yn ei fwyta, pam lai?
Beca: Darllenais i yn rhywle eich bod chi’n mwynhau eich bwyd yn well os ydych chi’n tynnu llun ohono’n gyntaf. Mae’n debyg fod aros am ychydig cyn dechrau bwyta’n beth da.
Steffan:

Beth am ‘selfie crazes’ yn gyffredinol, ’te? Beth yw eich barn chi amdanyn nhw?

Katie: Mae rhai’n gwneud lles, er enghraifft, cododd yr ‘Ice Bucket Challenge’ lawer o arian rai blynyddoedd yn ôl. Degau o filiynau o bunnau, a dweud y gwir.
Tom: Ond roedd rhai pobl yn cymryd rhan ond ddim yn rhoi dim byd i’r elusen.
Steffan: Dwi ddim yn deall y chwiw ddiweddaraf – taflu eich ffôn i’r awyr a thynnu llun ohonoch chi eich hun yn curo eich dwylo. Mae honna’n un ryfedd iawn, rhaid dweud!