Yn ddiweddar, cafodd llong ymchwil danfor Boaty McBoatface ei hanfon ar ei thaith gyntaf yn Antarctica. Dyma ddetholiad o erthygl oddi ar Cymru Fyw gan Gymro sy’n gweithio yn y maes.
http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/38068318
24 Tachwedd 2016
Mae Huw Griffiths yn wreiddiol o bentref Llanon yng Ngheredigion ond bellach wedi bod yn ei swydd fel Biolegydd Môr yn y British Antarctic Survey yng Nghaergrawnt ers 16 mlynedd. Mae'n teithio i Antarctica fel rhan o'i swydd i astudio'r creaduriaid sydd yno.
Soniodd wrth Cymru Fyw am ei brofiadau yn byw a gweithio ar waelod y byd:
Rydw i'n edrych ar y bywyd gwyllt sydd ar wely'r môr. Mae gennym ni staff gwahanol sy'n edrych ar y pengwiniaid a'r morloi (y pethau ciwt fel yna!), a rhai eraill yn astudio pethau fel pysgod, ond y pethau 'hyll' sydd yn mynd â mryd i - y pryfaid bach sy'n byw ar y gwaelod - rhai sydd â dim llygaid, neu lawer o lygaid, dim coesau, neu lawer o goesau!
Mae'r rhan fwyaf o greaduriaid Antarctica yn byw ar wely'r môr, ac mae gennym ni enwau i tua 12,000 ohonyn nhw - ond mae'n siŵr fod yna'r un nifer eto o rai dydyn ni heb roi enwau iddyn nhw. Bob tro rydyn ni'n mynd yno, rydyn ni'n darganfod rhywogaethau newydd - 'naethon ni ddarganfod rhyw 10 ohonyn nhw'r tro diwethaf. Weithiau rydyn ni'n gweithio i ddyfnder o hyd at 2,500m.
Rydyn ni'n gollwng camerâu i lawr i dynnu lluniau o wely'r môr a mathau arbennig o rwydi er mwyn codi creaduriaid. Does dim modd i ni weld o'r lluniau camera bob tro os yw'r creadur yn rhywogaeth newydd neu beidio, felly mae'n rhaid cael samplau.
Pan dwi yno, dwi'n gweithio a byw ar long, weithiau am hyd at ddau fis a hanner ar y tro. Rydyn ni'n eu galw yn research cruises, ond credwch fi, does yna ddim buffets am hanner nos na llond y lle o cocktails!
Ar y llongau, mae 'na griw o tua 30 a hyd at 30 o wyddonwyr - sy'n golygu fod pob gwely yn cael ei ddefnyddio. Rwyt ti felly yn gweithio, bwyta a byw gyda'r un 60 person - a does gen ti 'nunlle i ddianc. Mae e bron fel bod yn nhŷ Big Brother, ond yn ffodus, does neb yn cael ei gicio mas!
Dyma un o'r agweddau anoddaf am y teithiau hyn - mae pawb yn meddwl mai'r teithio a'r tywydd fyddai anoddaf, ond mae'n rhaid i chi ddod o hyd i ffordd o ddod ymlaen 'da phobl.
Yn ffodus, mae ganddon ni fwy o ffyrdd i adlonni ein hunain nag oedd yn y gorffennol - gallwn ni ddod â channoedd o ffilmiau, llyfrau a chaneuon 'da ni ar declyn bach. A does dim modd dianc rhag yr e-byst, wrth gwrs. Mae'r we braidd yn araf... ond mi ydyn ni ar waelod y byd, felly dydi hi ddim yn syndod!
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
llong ymchwil danfor | peiriant sy'n mynd o dan y môr i wneud gwaith ymchwil | submarine reasearch vessel |
mynd â mryd i | ymadrodd i gyfeirio at rywbeth yr ydych yn ei hoffi | takes my fancy |
rhywogaethau | math neu ddosbarth o anifail/blanhigyn | species |
rhwydi | ffurf luosog 'rhwyd' - rhywbeth wedi ei weu'n llac gyda llinyn | netting |
gwyddonwyr | pobl sy'n gweithio ym myd gwyddoniaeth | scientists |
ffodus | gair arall am lwcus, ffawd o'i blaid | fortunate |
adlonni | creu adloniant | (to) entertain |