Morlyn Llanw Bae Abertawe

Rhifyn 44 - Gwyddoniaeth Gudd
Morlyn Llanw Bae Abertawe

Morlyn Llanw Bae Abertawe

Beth yw cynllun ‘Morlyn Llanw Bae Abertawe’?

Dyma esboniad oddi ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae Prosiect Morlyn Llanw Bae Abertawe yn cynnig adeiladu wal fôr hir 9.5km ym Mae Abertawe, rhwng yr afonydd Tawe a Nedd, cysylltu dociau Abertawe i'r gorllewin a champws newydd Gwyddoniaeth ac Arloesi Prifysgol Abertawe i'r dwyrain. Bydd yn gartref i orsaf gynhyrchu trydan, canolfan ymwelwyr a chyfleusterau addysgol.”

https://naturalresources.wales/about-us/news-and-events/our-position/swansea-bay-tidal-lagoon/?lang=cy

Dyma ddetholiad o erthygl oddi ar wefan Cymru Fyw. (Clicwich ar y ddolen os am ddarllen yr erthygl yn llawn.):

http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/38597444

morlyn llanw bae abertawe

Adroddiad yn ffafriol i gynllun morlyn Bae Abertawe

12 Ionawr 2017

Mae adroddiad annibynnol sydd wedi ei gyhoeddi ddydd Iau yn argymell adeiladu morlyn llanw gwerth £1.3bn ym Mae Abertawe.

Dywedodd Charles Hendry, awdur yr adroddiad, y gallai morlynnoedd llanw fod yn "ddiwydiant newydd cyffrous a phwysig i'r Deyrnas Unedig".

"Ar ôl astudio'r dystiolaeth a siarad â phobl allweddol ar y ddwy ochr, fy marn i yw y dylen ni gymryd y cyfle nawr i symud 'mlaen â'r dechnoleg," meddai.

Ychwanegodd fodd bynnag y dylid aros i'r morlyn yn Abertawe gael ei adeiladu ac yna asesu ei effaith, cyn cymeradwyo prosiectau mwy mewn rhannau eraill o'r DU.

Mae gwrthwynebwyr i'r cynllun wedi mynegi pryder am ei effaith ar fywyd gwyllt a'r amgylchedd, a hefyd wedi codi amheuon a fydd yn cynnig gwerth am arian.

Ar gais Llywodraeth Prydain, fe wnaeth y cyn weinidog ynni Charles Hendry dreulio bron i flwyddyn yn astudio ymarferoldeb y cynlluniau.

Gobaith y datblygwyr yw sefydlu rhwydwaith o forlynnoedd ar hyd arfordir y DU, gan ddechrau yn Abertawe. Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu casgliadau'r adroddiad.

Cefnogaeth:

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd Ceri Davies o Gyfoeth Naturiol Cymru: "Mae datblygu ffynonellau newydd o ynni adnewyddol sydd yn lleihau niwed i'r amgylchedd yn nod yr ydym yn ei gefnogi'n llawn.

"Mae defnyddio'r llanw i greu ynni adnewyddol yn beth cymharol newydd ac mae'n beth cymhleth iawn. Nid oes neb wedi casglu tystiolaeth o'r blaen am y dechnoleg yma sy'n cael ei defnyddio am y tro cyntaf.

"Rydym yn cydweithio'n agos gyda datblygwyr y cynllun morlyn […] yn Abertawe a gydag arbennigwyr eraill i sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn fanwl ac yn deg."

morlyn llanw bae abertawe

12% o ynni:

Byddai'r cynllun ym Mae Abertawe yn cynnwys 16 o dyrbinau ar hyd morglawdd newydd, ond mae'n cael ei weld fel cynllun prawf ar gyfer cynlluniau llawer mwy.

Gallai'r rhain gynnwys safleoedd yng Nghymru ym Mae Caerdydd, Casnewydd a Bae Colwyn, ac yn Lloegr, oddi ar arfordir Cumbria a Bae Bridgwater.

Dywed Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns fod y Llywodraeth yn edrych ymlaen at astudio adroddiad Charles Hendry "a phenderfynu sut y gall lagwnau gyfrannu at anghenion ynni Cymru a gweddill y DU."

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r adroddiad. Dywedodd llefarydd: "Mae hyn yn amlwg yn cynnig cyfleoedd sylweddol posib i Gymru.

[…]

"Rydym yn croesawu'r sylw fod achos cryf iawn dros sefydlu Morlyn Llanw Bae Abertawe fel cynllun bychan arloesol i liniaru'r tir, yn dibynnu ar dderbyn cymeradwyaeth."

[…]