Mae’r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael yn dangos bod llai o Gymry Cymraeg yng Nghymru wedi gwylio S4C ar y teledu yn ystod 2015/2016 nag mewn blynyddoedd blaenorol. Gweler Graff 1 isod. Yn ôl arbenigwyr yn y maes, mae hyn yn nodweddiadol o batrwm gwylio sianeli eraill hefyd.
Ar y llaw arall, mae’r ffigurau’n dangos bod nifer y bobl ar draws y DU oedd yn gwylio’r sianel am o leiaf tair munud yn olynol yn ystod yr un cyfnod wedi cynyddu.
Mae ein gohebydd Cyfryngau wedi ymweld ag ysgol uwchradd leol i weld beth yw barn y disgyblion am y ffigurau hyn.
“Mae angen i S4C geisio creu rhaglenni sy’n apelio at fwy o bobl,” meddai un disgybl. “Mae gormod o raglenni wedi cael eu creu ar gyfer pobl ganol oed, a does dim digon ar gyfer pobl ifanc.”
“Mae’r ffaith bod S4C yn apelio at bobl y tu hwnt i Gymru’n dangos pa mor llwyddiannus yw’r sianel,” meddai disgybl arall. “Efallai mai Cymry sydd wedi symud i rannau eraill o’r DU sy’n gyfrifol am y ffigurau hyn ond mae’n bosib hefyd bod pobl eraill, sydd ddim yn Gymry, wedi dechrau gwylio a mwynhau’r sianel oherwydd bod safon y rhaglenni mor uchel.”
Un peth arall sy’n ddiddorol yw bod cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sydd wedi bod yn gwylio’r sianel ar y we neu ar ddyfeisiau symudol yn ystod y cyfnod, yn hytrach nag ar y teledu yn unig. Gweler Graffiau 2 a 3.
Beth yw’ch barn chi am hyn i gyd?
Ysgrifennwch aton ni.
Rhifyn 56, Mai 2017
Graff 1
Graff 2
Graff 3
http://www.s4c.cymru/abouts4c/annualreport/acrobats/s4c-annual-report-2016.pdf
http://www.s4c.cymru/abouts4c/annualreport/acrobats/s4c-annual-report-2016.pdf
http://www.s4c.cymru/abouts4c/annualreport/acrobats/s4c-annual-report-2016.pdf
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
nodweddiadol | yn dilyn patrwm | typical |
gohebydd | rhywun sy'n cyflwyno adroddiadau i'r wasg | reporter |
yn olynol | ar ôl ei gilydd | consecutively |
cynnydd | nifer mwy | increase |
dyfeisiau | ffurf luosog dyfais - teclyn arbennig | devices |