Yn ôl cyfrifiad 2011, roedd poblogaeth rhanbarth Llundain Fawr yn 8,173,900. Mae hyn dros ddwbl poblogaeth Cymru gyfan!
| Pwyntiau Allweddol o Gyfrifiad Cymru: | 
| 
Ar noson y cyfrifiad roedd poblogaeth Cymru yn 3.06 miliwn, sef ei phoblogaeth fwyaf erioed. | 
| 
Roedd 1.50 miliwn o ddynion ac 1.56 miliwn o ferched yng Nghymru. | 
| 
Tyfodd y boblogaeth 153,000 yn y 10 mlynedd ers y cyfrifiad diwethaf yn 2001.   | 
| 
Yn 1911, roedd 2.4 miliwn o bobl. | 
| 
Roedd cyfraddau mudo yn cyfrif am dros 90 y cant o’r cynnydd yn y boblogaeth rhwng 2001 a 2011. Mae hyn yn cynnwys mudo rhyngwladol a mudo o rannau eraill o’r DU. | 
| 
Oedran canolrif y boblogaeth yng Nghymru oedd 41. Ar gyfer dynion, 40 oedd yr oedran canolrif ac ar gyfer merched 42 oedd yr oedran canolrif. Yn 1911, roedd yr oedran canolrif ledled Cymru a Lloegr yn 25. | 
| 
Roedd 18.4% o’r boblogaeth yng Nghymru yn 65 oed a throsodd, uwch nag unrhyw gyfrifiad arall.  | 
| 
Roedd 25,000 o breswylwyr yng Nghymru a oedd yn 90 oed a throsodd yn 2011, o gymharu â 19,000 yn 2001 a 700 yn 1911. | 
| 
Yn 2011, roedd 178,000 o blant o dan bump oed yng Nghymru, 11,000 yn fwy nag yn 2001. | 
| 
Yng Nghymru, roedd dwysedd cyfartalog y boblogaeth yn 148 o breswylwyr fesul cilomedr sgwâr, a oedd yn is nag unrhyw ranbarth yn Lloegr.  | 
| 
Tyfodd y boblogaeth ym mhob rhan o Gymru rhwng 2001 a 2011 heblaw am Flaenau Gwent, lle y bu dirywiad bach. | 
Cewch ragor o wybodaeth yma.