Os oes gennych chi ddiddordeb yn hanes Cymru, byddwch chi wedi clywed am o leiaf ddau o’r tri enw yma o’r blaen.
Cyn egluro pwy yn union yw’r tri, un peth y dylech chi wybod amdanynt yw bod gan y tri gysylltiad â Llundain.
Mae hanes Bendigeidfran yn dod o’n chwedlau hynaf ni – y Mabinogi. Roedd Bendigeidfran yn gawr ac yn frenin Ynysoedd Prydain. Priododd chwaer Bendigeidfran, Branwen, â brenin Iwerddon, Matholwch. I dorri stori hir iawn yn fyr, aeth pethau’n ffradach rhwng y ddwy wlad. Mae hi’n stori am ddial, cosbi a lladd. Yn y pen draw, roedd yn rhaid i Bendigeidfran a’i fyddin fynd i Iwerddon i achub Branwen a brwydro yn erbyn y Gwyddelod. Yn anffodus, lladdwyd Bendigeidfran. Roedd yn rhy fawr i’w gario adref, felly torrwyd ei ben i ffwrdd … a dyma pryd mae Llundain yn ymuno â’r stori!
Yn ôl y sôn, cafodd pen enfawr Bendigeidfran ei gymryd i Lundain i le o’r enw Gwynfryn. Heddiw, mae pobl yn credu mai dyma leoliad Tŵr Llundain. Claddwyd ei ben yno, yn wynebu Ffrainc, fel rhybudd i elynion beidio â mentro ymosod ar Ynysoedd Prydain.
Os ydych chi eisiau darganfod mwy am y chwedl gyflawn, chwiliwch am chwedl Branwen Ferch Llŷr.
Cysylltiad tebyg sydd gan Llywelyn ein Llyw Olaf, neu Llywelyn ap Gruffudd, â Llundain. Rydyn ni’n ei alw’n Llywelyn ein Llyw Olaf oherwydd ef oedd tywysog olaf Cymru (er i Owain Glyndŵr ddatgan ei hun yn dywysog Cymru tua chant a hanner o flynyddoedd ar ôl Llywelyn, ond stori arall yw honno!).
Cafodd Llywelyn ei gydnabod yn dywysog ar Gymru gyfan yn 1258, ond yn 1272 daeth Edward 1 yn frenin Lloegr. Roedd o am goncro Cymru ac felly dechreuodd ei ymgyrch i gael gwared ar unrhyw bŵer oedd gan unrhyw un yng Nghymru, a Llywelyn oedd ei brif darged.
Yn 1282, yng Nghilmeri ger Llanfair-ym-muallt, y lladdwyd Llywelyn. Os ewch chi yno heddiw mae carreg enfawr wedi ei gosod i nodi’r fan lle lladdwyd tywysog olaf Cymru. Ond pe baech chi’n cerdded i lawr y llwybr o’r garreg tuag at yr afon, mae ffynnon arbennig yno.
Ar ôl i Llywelyn gael ei ladd gan y Saeson, yn ôl y sôn torrwyd ei ben i ffwrdd a’i olchi yn y ffynnon cyn cael ei anfon at y brenin fel prawf bod Tywysog Cymru wedi marw. Cafodd y pen ei gymryd i Lundain, ond nid er mwyn ei gladdu’n urddasol fel pen Bendigeidfran, ond er mwyn ei gario o gwmpas y strydoedd a’i arddangos i’r bobl. Roedd brenin Lloegr wedi lladd y gelyn ac roedd o gam yn nes at goncro’r Cymry. Gosodwyd pen Llywelyn ar bigyn haearn ger Tŵr Llundain a’i adael yno am flynyddoedd i atgoffa’r bobl fod Lloegr wedi concro Cymru.
Cofeb Llywelyn yng Nghilmeri
Diolch byth, nid stori arall am rywun yn colli ei ben yw’r stori hon, ond hanes sefydlu rhywbeth arbennig iawn i ni yng Nghymru heddiw. Roedd Iolo Morganwg yn byw rhwng 1747 ac 1826. Roedd yn gymeriad lliwgar ac yn dipyn o seleb yn ei oes. Roedd yn ymddiddori mewn hanes, llawysgrifau a llenyddiaeth. Roedd yn casglu hen lawysgrifau ac yn hoffi ail greu hen arferion. Darganfuwyd, ar ôl iddo farw, ei fod wedi ffugio nifer o ysgrifau a thystoliaethau. Felly, er iddo fod yn gymeriad dylanwadol iawn yn ein hanes, dydy o na’i waith ddim yn ddibynadwy iawn.
Er hynny, mae ei ddylanwad aruthrol dal yn amlwg heddiw. Ar Fryn y Briallu yn Llundain (Primrose Hill) yn 1792, sefydlodd Iolo Morganwg Orsedd y Beirdd – y bobl sy’n gwisgo dillad hir gwyn, glas a gwyrdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Sefydlodd yr Orsedd a chreu seremonïau a thraddodiadau, gan honni eu bod yn perthyn i hen arferion Celtaidd. Beth bynnag oedd y gwirionedd, mae’r traddodiad a’r sefydliad yma dal yn ei anterth eleni, ac yn rhan gwbl unigryw a phwysig o ddiwylliant Cymru. Os ewch chi i Fryn y Briallu yn Llundain fe welwch chi gofeb i’r digwyddiad yno.
Cofeb Iolo Morganwg ar Fryn y Briallu, Llundain
Gorsedd y Beirdd