BENDIGEIDFRAN, LLYWELYN AC IOLO

Os oes gennych chi ddiddordeb yn hanes Cymru, byddwch chi wedi clywed am o leiaf ddau o’r tri enw yma o’r blaen.

Cyn egluro pwy yn union yw’r tri, un peth y dylech chi wybod amdanynt yw bod gan y tri gysylltiad â Llundain.

BENDIGEIDFRAN

Mae hanes Bendigeidfran yn dod o’n chwedlau hynaf ni – y Mabinogi. Roedd Bendigeidfran yn gawr ac yn frenin Ynysoedd Prydain. Priododd chwaer Bendigeidfran, Branwen, â brenin Iwerddon, Matholwch. I dorri stori hir iawn yn fyr, aeth pethau’n ffradach rhwng y ddwy wlad. Mae hi’n stori am ddial, cosbi a lladd. Yn y pen draw, roedd yn rhaid i Bendigeidfran a’i fyddin fynd i Iwerddon i achub Branwen a brwydro yn erbyn y Gwyddelod. Yn anffodus, lladdwyd Bendigeidfran. Roedd yn rhy fawr i’w gario adref, felly torrwyd ei ben i ffwrdd … a dyma pryd mae Llundain yn ymuno â’r stori!

Yn ôl y sôn, cafodd pen enfawr Bendigeidfran ei gymryd i Lundain i le o’r enw Gwynfryn. Heddiw, mae pobl yn credu mai dyma leoliad Tŵr Llundain. Claddwyd ei ben yno, yn wynebu Ffrainc, fel rhybudd i elynion beidio â mentro ymosod ar Ynysoedd Prydain.

Os ydych chi eisiau darganfod mwy am y chwedl gyflawn, chwiliwch am chwedl Branwen Ferch Llŷr.

LLYWELYN EIN LLYW OLAF

Cysylltiad tebyg sydd gan Llywelyn ein Llyw Olaf, neu Llywelyn ap Gruffudd, â Llundain. Rydyn ni’n ei alw’n Llywelyn ein Llyw Olaf oherwydd ef oedd tywysog olaf Cymru (er i Owain Glyndŵr ddatgan ei hun yn dywysog Cymru tua chant a hanner o flynyddoedd ar ôl Llywelyn, ond stori arall yw honno!).

Cafodd Llywelyn ei gydnabod yn dywysog ar Gymru gyfan yn 1258, ond yn 1272 daeth Edward 1 yn frenin Lloegr. Roedd o am goncro Cymru ac felly dechreuodd ei ymgyrch i gael gwared ar unrhyw bŵer oedd gan unrhyw un yng Nghymru, a Llywelyn oedd ei brif darged.

Yn 1282, yng Nghilmeri ger Llanfair-ym-muallt, y lladdwyd Llywelyn. Os ewch chi yno heddiw mae carreg enfawr wedi ei gosod i nodi’r fan lle lladdwyd tywysog olaf Cymru. Ond pe baech chi’n cerdded i lawr y llwybr o’r garreg tuag at yr afon, mae ffynnon arbennig yno.

Ar ôl i Llywelyn gael ei ladd gan y Saeson, yn ôl y sôn torrwyd ei ben i ffwrdd a’i  olchi yn y ffynnon cyn cael ei anfon at y brenin fel prawf bod Tywysog Cymru wedi marw. Cafodd y pen ei gymryd i Lundain, ond nid er mwyn ei gladdu’n urddasol fel pen Bendigeidfran, ond er mwyn ei gario o gwmpas y strydoedd a’i arddangos i’r bobl. Roedd brenin Lloegr wedi lladd y gelyn ac roedd o gam yn nes at goncro’r Cymry. Gosodwyd pen Llywelyn ar bigyn haearn ger Tŵr Llundain a’i adael yno am flynyddoedd i atgoffa’r bobl fod Lloegr wedi concro Cymru.


Cofeb Llywelyn yng Nghilmeri

IOLO MORGANWG

Diolch byth, nid stori arall am rywun yn colli ei ben yw’r stori hon, ond hanes sefydlu rhywbeth arbennig iawn i ni yng Nghymru heddiw. Roedd Iolo Morganwg yn byw rhwng 1747 ac 1826. Roedd yn gymeriad lliwgar ac yn dipyn o seleb yn ei oes. Roedd yn ymddiddori mewn hanes, llawysgrifau a llenyddiaeth. Roedd yn casglu hen lawysgrifau ac yn hoffi ail greu hen arferion. Darganfuwyd, ar ôl iddo farw, ei fod wedi ffugio nifer o ysgrifau a thystoliaethau. Felly, er iddo fod yn gymeriad dylanwadol iawn yn ein hanes, dydy o na’i waith ddim yn ddibynadwy iawn.

Er hynny, mae ei ddylanwad aruthrol dal yn amlwg heddiw. Ar Fryn y Briallu yn Llundain (Primrose Hill) yn 1792, sefydlodd Iolo Morganwg Orsedd y Beirdd – y bobl sy’n gwisgo dillad hir gwyn, glas a gwyrdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Sefydlodd yr Orsedd a chreu seremonïau a thraddodiadau, gan honni eu bod yn perthyn i hen arferion Celtaidd. Beth bynnag oedd y gwirionedd, mae’r traddodiad a’r sefydliad yma dal yn ei anterth eleni, ac yn rhan gwbl unigryw a phwysig o ddiwylliant Cymru. Os ewch chi i Fryn y Briallu yn Llundain fe welwch chi gofeb i’r digwyddiad yno.


Cofeb Iolo Morganwg ar Fryn y Briallu, Llundain


Gorsedd y Beirdd