Yn ôl cyfrifiad 2011, roedd poblogaeth rhanbarth Llundain Fawr yn 8,173,900. Mae hyn dros ddwbl poblogaeth Cymru gyfan!

 Pwyntiau Allweddol o Gyfrifiad Cymru:
  • Ar noson y cyfrifiad roedd poblogaeth Cymru yn 3.06 miliwn, sef ei phoblogaeth fwyaf erioed.
  • Roedd 1.50 miliwn o ddynion ac 1.56 miliwn o ferched yng Nghymru.
  • Tyfodd y boblogaeth 153,000 yn y 10 mlynedd ers y cyfrifiad diwethaf yn 2001.  
  • Yn 1911, roedd 2.4 miliwn o bobl.
  • Roedd cyfraddau mudo yn cyfrif am dros 90 y cant o’r cynnydd yn y boblogaeth rhwng 2001 a 2011. Mae hyn yn cynnwys mudo rhyngwladol a mudo o rannau eraill o’r DU.
  • Oedran canolrif y boblogaeth yng Nghymru oedd 41. Ar gyfer dynion, 40 oedd yr oedran canolrif ac ar gyfer merched 42 oedd yr oedran canolrif. Yn 1911, roedd yr oedran canolrif ledled Cymru a Lloegr yn 25.
  • Roedd 18.4% o’r boblogaeth yng Nghymru yn 65 oed a throsodd, uwch nag unrhyw gyfrifiad arall.
  • Roedd 25,000 o breswylwyr yng Nghymru a oedd yn 90 oed a throsodd yn 2011, o gymharu â 19,000 yn 2001 a 700 yn 1911.
  • Yn 2011, roedd 178,000 o blant o dan bump oed yng Nghymru, 11,000 yn fwy nag yn 2001.
  • Yng Nghymru, roedd dwysedd cyfartalog y boblogaeth yn 148 o breswylwyr fesul cilomedr sgwâr, a oedd yn is nag unrhyw ranbarth yn Lloegr.
  • Tyfodd y boblogaeth ym mhob rhan o Gymru rhwng 2001 a 2011 heblaw am Flaenau Gwent, lle y bu dirywiad bach.

Cewch ragor o wybodaeth yma.