Dyma ddetholiad o hen erthygl a gyhoeddwyd ar y 10fed o Fai, 2006, ar wefan y BBC yn sôn am y diwydiant llaeth enfawr wnaeth ddatblygu yn Llundain – diolch i ffermwyr o Gymru:

* * * * *

Godro

Ar un adeg, roedd 700 o laethdai yn Llundain ac mae cysylltiad Cymru â diwydiant llaeth y ddinas yn mynd yn ôl sawl canrif.

Ar droad y 19eg ganrif, roedd miloedd o wartheg godro’n cael eu cadw mewn ardaloedd cymharol wledig ar gyrion canol Llundain, fel Islington.

Yno, roedd porfa bwysig i borthmyn a ffermwyr o Gymru ar eu ffordd i werthu cig eidion a llaeth ffres ym Marchnad Smithfield.

Chwaraeodd cymuned Gymreig Llundain ran amlwg yn y diwydiant cig a chynhyrchu a dosbarthu llaeth.

Teithiodd nifer o ferched Cymru i'r ardal i odro'r gwartheg mewn cytiau a byddai'r llaeth yn cael ei gludo i'r ddinas ddwywaith y dydd.

Yn ôl un adroddiad o'r cyfnod, roedd y llaeth yn cael ei gludo o'r beudai mewn piseri tun mawr gan "ferched Cymreig cryf" cyn i'r llaeth gael ei werthu ar strydoedd y ddinas.

Roedden nhw'n arfer cario rhwng 100 a 130 pwys ar eu cefnau am ddwy neu dair milltir y dydd ac erbyn canol dydd roedden nhw'n dychwelyd i'r beudai am fwy o laeth.

Eu tâl am waith mor flinedig oedd brecwast a naw swllt yr wythnos.

Mor ddiweddar â 50 mlynedd yn ôl roedd mwy na 500 o laethdai Cymreig yn Llundain. Ond gwerthu'r busnes i gwmnïau llaeth mawr a dychwelyd i Gymru fu hanes nifer fawr o'r teuluoedd oedd yn berchen arnyn nhw.

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
llaethdy, llaethdai adeilad/au ble roedd llaeth yn cael ei ddosbarthu dairy
godro y broses o gael llaeth o'r fuwch (to) milk
porfa y gwair/glaswellt mae'r gwartheg yn ei fwyta grass
beudy, beudai adeilad/au ble mae'r gwartheg yn cysgu ac yn cael eu godro cowshed
piser, piseri siwg/siygiau arbennig i ddal llaeth pitcher