Dw i’n methu credu’r peth! Mae’r ddynes drws nesa wedi mynd dros ben llestri. Mae hi wedi gosod MILOEDD o oleuadau llachar dros ei thŷ ac maen nhw’n fflachio … fflachio … fflachio drwy’r nos. Dw i’n methu cysgu!
Paid â bod mor ddiflas! Mae’n Nadolig!
Ydy, mae’n Nadolig ond dw i’n METHU CYSGU. Ac, yn ogystal â’r holl oleuadau ofnadwy, mae hi wedi rhoi dau ddyn eira mawr plastig, carw mawr plastig a Siôn Corn mawr plastig ar ganol y lawnt ac yn yr ardd gefn. AC … ar ben hynny mae hi wedi gosod metrau a metrau o dinsel trwchus sgleiniog o gwmpas y coed afalau yn yr ardd.
Ond mae’n Nadolig!
Dw i’n gwybod!!!! Ond pam mae angen yr holl bethau di-chwaeth yma drws nesa? Mae cywilydd arna i pan fydd fy ffrindiau ysgol i’n galw i ’ngweld i!
Ond mae’n Nadolig!!!
Wnei di stopio dweud, “Ond mae’n Nadolig!”? Dw i’n derbyn bod addurniadau a goleuadau’n gallu edrych yn neis iawn mewn rhai lleoedd – os ydyn nhw wedi eu gosod yn chwaethus – ond nid goleuadau a chymeriadau mawr plastig a metrau o dinsel a phethau di-chwaeth eraill yw’r Nadolig.
Wel, beth yw’r Nadolig i ti, ’te?
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
mynd dros ben llestri | mynd yn rhy bell, gwneud mwy nag sydd angen | (to) go "over the top" |
di-chwaeth | heb fod yn hyfryd | tacky |
ar ben hynny | yn ogystal â hynny | in addition to that |
mae cywilydd arna i | dw i’n teimlo cywilydd | (to) feel ashamed |
yn chwaethus | yn addas ac yn hyfryd | tastefully |