FAINT o galorïau?!?

Rhifyn 49 - Y Nadolig
FAINT o galorïau?!?
 

Annwyl gyfeillion,

Mae’n siŵr eich bod chi i gyd yn gwybod faint o galorïau dylai dynion, menywod a phlant eu bwyta / yfed bob dydd.

Wel, oeddech chi’n gwybod bod llawer iawn iawn o bobl – y rhan fwyaf o bobl efallai – yn bwyta mwy na dwywaith y nifer yna ar Ddydd Nadolig? Petaech chi’n gofyn iddyn nhw ar Ddydd San Steffan faint o galorïau maen nhw wedi eu bwyta, bydden nhw’n dweud, “O tua 3 000!” achos dydyn nhw ddim yn sylweddoli eu bod nhw wedi bwyta cymaint.

Ydych chi’n gwybod faint o galorïau sydd yn y bwydydd yma, er enghraifft?

Wel, fe gewch chi wneud yr ymchwil. Ond ar ben hyn i gyd, rydyn ni’n bwyta cacen Nadolig (tua 220 o galorïau ym mhob darn – yn dibynnu ar faint y darn, wrth gwrs), mins peis (dros 200 o galorïau ym mhob un), siocledi a losin (cannoedd o galorïau – yn dibynnu ar faint rydych chi’n bwyta) ac ati, ac ati, ac ati.

Ond peidiwch â phoeni, dim ond ar un diwrnod y flwyddyn mae hyn yn digwydd – GOBEITHIO! Yn wir, petaech chi’n bwyta fel hyn bob dydd, byddech chi’n rhoi 26 stôn ymlaen a byddech chi’n mynd yn sâl, mae hynny’n sicr!

OND …

Tra mae rhai ohonon ni’n bwyta’n rhy dda ar Ddydd Nadolig, mae pobl eraill yn gorfod byw ar y nesaf peth i ddim … a dw i ddim jyst yn sôn am bobl yn Affrica neu mewn gwledydd tlawd ar draws y bydd. Dw i’n cyfeirio at y ffaith bod pobl yn ein gwlad ni … yng Nghymru … ym Mhrydain … yn y Gorllewin … yn byw ar ychydig iawn – a hynny drwy’r flwyddyn, nid jyst adeg y Nadolig.

Edrychwch ar y ddelwedd yma. Mae’r ffigurau’n dangos faint o becynnau argyfwng – sef pecynnau a oedd yn cynnwys digon o fwyd i bara tri diwrnod – gafodd eu dosbarthu i bobl ym Mhrydain o fis Ebrill tan fis Medi eleni – ie, eleni, yn 2017!

Mae’r mudiad sy’n gyfrifol am ddosbarthu’r pecynnau yma ac am drefnu banciau bwyd ar hyd a lled y wlad, y Trussell Trust, yn dweud bod 586 907 o’r pecynnau hyn wedi eu dosbarthu i bobl anghenus o fis Ebrill tan fis Medi, o’i gymharu â 519 342 am yr un cyfnod y llynedd. Aeth 208 956 o’r rhain i blant - i blant heb fwyd yng Nghymru … ym Mhrydain … yn y Gorllewin … yn y flwyddyn 2017 ... Mae’r sefydliad yn dweud y bydd y sefyllfa’n siŵr o waethygu eto cyn y Nadolig ...

Geirfa

Cymraeg Disgrifiad Saesneg
argyfwng sefyllfa beryglus iawn emergency
mudiad corff, cymdeithas movement, organisation
ar hyd a lled ar draws all over
anghenus mewn angen in need