Annwyl Gweiddi,
Wnewch chi gynnwys yr e-bost yma yn rhifyn y Nadolig o Gweiddi os gwelwch yn dda?
Dw i’n byw yng Ngogledd Cymru ac felly doeddwn i ddim yn gwybod tan eleni am elusen ffantastig sydd wedi bod yn helpu plant difreintiedig ar draws De Cymru ers blynyddoedd.
Sôn am Apêl Mr X ydw i, apêl sy’n casglu teganau ac yn eu dosbarthu i blant anghenus.
Tom Bravin ydy enw’r dyn ddechreuodd yr elusen – er, doedd neb yn gwybod pwy oedd Mr X tan iddo farw yn 2016. Am berson diymhongar! Byddai llawer o bobl wedi bod yn falch iawn o gael eu lluniau yn y papurau newydd gyda phentwr o barseli Nadolig i ddangos eu bod nhw’n bobl garedig, weithgar yn y gymuned, ond nid Tom. Gweithio’n dawel ac yn ddiwyd wnaeth o – am 57 o flynyddoedd. Chwarae teg iddo! Bechod nad oes mwy o bobl fel fo o gwmpas!
Mae’r apêl yn rhedeg eleni eto ac mae rhai unigolion a chwmnïau wedi bod yn prynu teganau a llyfrau newydd, eu rhoi mewn bagiau Nadoligaidd a mynd â nhw i ganolfannau casglu arbennig. Oddi yno bydd gwirfoddolwyr yn eu dosbarthu i blant difreintiedig. Gwych!
Dyma enghraifft fendigedig o ysbryd yr Ŵyl. Mae’n ddigon hawdd i ni eistedd yn ôl yn gyfforddus dros y Nadolig a mwynhau, ond dylai pob un ohonon ni fod yn Mr, Mrs neu’n Miss X. Dylen ni ddilyn esiampl Tom Bravin a meddwl am rywun arall! Does dim rhaid i ni feddwl am ymgyrch fawr hyd yn oed, ond gall pob un ohonon ni helpu a gwneud gwahaniaeth i rywun arall y Nadolig yma.
Dewch o’na, Gymry! Meddyliwch am rywun arall y Nadolig yma!
Diolch yn fawr.
L. Lewis
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
difreintiedig | heb fod yn freintiedig | underpriviliged |
anghenus | mewn angen | in need |
Bechod! | Dyna drueni! | What a pity / shame! |
ymgyrch | gweithredu trefnus er mwyn ceisio cyflawni rhywbeth | campaign |