Ar lan y môr

Rhifyn 51 - Y Môr
Ar lan y môr

Mae trefi glan y môr yn gallu bod yn lliwgar iawn.

Pam tybed?

Wel, yn ôl y sôn, roedd pysgotwyr yn hoffi peintio’u tai mewn lliwiau gwahanol fel eu bod nhw’n gwybod pa un oedd eu tŷ nhw ar ôl gorffen pysgota!

Mae enwau tai mewn trefi glan y môr yn gallu bod yn annisgwyl hefyd:

Pam tybed?

Wel, mae llawer o’r enwau yn dangos y cysylltiad rhwng y bobl oedd yn byw yn y tai’n wreiddiol a’r môr gan eu bod nhw wedi ymweld â’r mannau hyn wrth weithio ar y llongau 'slawer dydd.

Mae llawer o dai eraill sy’n cynnwys y gair MÔR yn eu henwau: