O dan y môr a’i donnau
Tonnau, traethau, creigiau, cychod … Oeddech chi’n gwybod fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu mai 2018 yw Blwyddyn y Môr? Mae hyn yn dilyn:
Diben Blwyddyn y Môr yw dathlu arfordir hyfryd Cymru a denu ymwelwyr o bob cwr o’r byd i gael mwynhau bywyd ar hyd ei glannau.
Cafwyd y llun hwn oddi ar wefan croeso.cymru
Bydd Blwyddyn y Môr yn 2018 yn rhoi cyfle i bobl feddwl eto am Gymru drwy hyrwyddo
... hynny yw, popeth sy'n gwneud Cymru'n lle unigryw i ymwelwyr.
Neges fawr Blwyddyn y Môr yw Ein Glannau Epig. Mae’r glannau’n cynnwys llynnoedd ac afonydd Cymru hefyd. Bydd y flwyddyn yn dangos pa mor anhygoel yw Cymru fel gwlad – o’r môr i ben y mynydd!
Os ydych chi eisiau darllen mwy, ewch i: croeso.cymru
Addaswyd o wefan croeso.cymru
Cymraeg | Disgrifiad | Saesneg |
---|---|---|
unigryw | rhywbeth arbennig iawn | unique |
hyrwyddo | hysbysebu, rhoi hwn i rywbeth | (to) promote |
arfordir | lle mae'r tir yn cwrdd â'r môr | coast |
cynnyrch | rhywbeth sy'n cael ei greu | produce |
porthladdoedd | lle mae llongau'n dod i'r lan i ddadlwytho | ports |
epig | anhygoel, gwell nag unrhyw beth arall | epic |