Diben goleudy yw rhybuddio llongau ar hyd yr arfordir am beryglon creigiau. Trwy ddefnyddio golau llachar, maen nhw’n gallu rhybuddio’r llongau sy’n pasio i’w cadw nhw’n ddiogel.
Sawl goleudy sydd yng Nghymru tybed?
Wel, 36 yw’r ateb cywir. Mae rhai ohonyn nhw’n dal i weithio a’r lleill wedi stopio gweithio ac wedi cael eu troi’n gartrefi neu’n dai gwyliau erbyn hyn!
Dyma’r prif oleudai ar arfordir Cymru heddiw. Ydych chi wedi clywed am rai ohonyn nhw?
Enw: Trwyn Eilian
Lleoliad: Gogledd-ddwyrain Sir Fôn
Uchder: 11 metr
Adeiladwyd: 1835
Enw: Ynysoedd y Moelrhoniaid
Lleoliad: Gogledd-orllewin Sir Fôn
Uchder: 23 metr
Adeiladwyd: 1717
Enw: Ynys Lawd
Lleoliad: Caergybi, Sir Fôn
Uchder: 28 metr
Adeiladwyd: 1809
Enw: Ynys Enlli
Lleoliad: Penrhyn Llŷn, Gwynedd
Uchder: 30 metr
Agorwyd: 1821
Enw: Ynysoedd Tudwal
Lleoliad: Penrhyn Llŷn, Gwynedd
Uchder: 10.7 metr
Agorwyd: 1877
Enw: Pen Strwmbwl
Lleoliad: Sir Benfro
Uchder: 17 metr
Agorwyd: 1908
Enw: South Bishop
Lleoliad: Sir Benfro
Uchder: 11 metr
Agorwyd: 1839
Enw: Y Smalls
Lleoliad: Penrhyn Marloes, Sir Benfro
Uchder: 41 metr
Agorwyd: 1861
Enw: Ynys Sgogwm
Lleoliad: Sir Benfro
Uchder: 18 metr
Agorwyd: 1916
Enw: Penrhyn St Ann
Lleoliad: Sir Benfro
Uchder: 13 metr
Agorwyd: 1844
Enw: Ynys Bŷr
Lleoliad: Sir Benfro
Uchder: 16 metr
Agorwyd: 1829
Enw: Y Mwmbwls
Lleoliad: Abertawe
Uchder: 17 metr
Agorwyd: 1794
Enw: Yr As Fach
Lleoliad: Marcross ger Caerdydd
Uchder: 37 metr
Agorwyd: 1832
Enw: Ynys Echni
Lleoliad: Môr Hafren
Uchder: 30 metr
Agorwyd: 1737
Enw: Dwyrain Wysg
Lleoliad: Casnewydd
Uchder: 11 metr
Agorwyd: 1821